Gyda’r holl helyntion yn y llywodraeth newydd yn San Steffan, sy’n cael o bosib y dechrau gwaethaf i unrhyw lywodraeth erioed, ynghyd â’r frwydr am arlywyddiaeth America a’r gyflafan barhaus yn y Dwyrain Canol, efallai nad yw’n syndod i rai pethau gael eu hanghofio. Ac un o’r pethau hynny’n ddi-os ydi ymgyrch barhaus, ddewr pobl Wcráin i wrthsefyll gormes a gelyniaeth Rwsia dan y bwystfil Putin. Ychydig iawn o newyddion rydyn ni’n ei gael erbyn hyn am y sefyllfa yno.