Aeth ein Gohebydd Gwleidyddol Rhys Owen draw i gynhadledd y Blaid yng Nghaerdydd tros y penwythnos i holi sawl gwleidydd…

Does ddim dadlau bod Plaid Cymru a’i haelodaeth yn syrffio ar frig ton llawn gobaith.

Bu’r gynhadledd yng Nghaerdydd yn siawns i gyfleu’r hyder sydd gan Aelodau o’r Senedd yn y Bae, ac yn San Steffan, wrth edrych ymlaen tuag at etholiad 2026.

Yn ôl un pôl piniwn diweddar mae’r Blaid o fewn pwynt i Lafur ar gyfer etholiadau nesa’ Senedd Cymru.