Dyma oedd y cwestiwn gefais dros y penwythnos gan deulu o’r Bermo. “Wyt ti’n dod i gigs ar gyfer pleser neu ar gyfer y sioe radio?” Fy ateb oedd – y sioe radio. Ar y cyfan dwi’n hapusach yn gweithio ac mae’r cyfuniad o fwynhau cerddoriaeth byw er mwyn trafod hynny ar y sioe radio ar nos Lun yn gweithio i mi. Mewn gig Euros Childs yn Neuadd Bethel cododd y cwestiwn.