Cyn heddiw mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi talu am hysbysebion yn Golwg yn galw ar bobol i fwyta mwy o fananas, yfed mwy o ddŵr a chodi a cherdded yn amlach.
Y math o neges gewch chi ar bosteri yn eich meddygfa leol, sy’n annog pobol i fyw yn iachach er mwyn ysgafnhau’r baich ar yr ysbytai.
Nid yw’r genadwri yn chwyldroadol, ac mae dweud ‘bwyta llai, symud mwy, er mwyn achub y Gwasanaeth Iechyd’ yn berffaith gywir a chall, ond… yn teimlo braidd yn naïf.
Y drafferth yw bod pobol ddim am wrando. Maen nhw am barhau i bori ar Fars Bars a llowcio pop a gyrru car i’r siop lawr y lôn i brynu pasdi.
Ymddengys bod ymdrechion Llywodraeth Cymru i atal y llanw wedi mynd yn fflemp.
Fis yn ôl cyhoeddodd yr Archwiliwr Cyffredinol adroddiad yn barnu bod llai yn seiclo a cherdded i’r gwaith a’r ysgol nag yn 2018 – er bod £220m wedi ei wario ar annog teithio llesol yn y chwe blynedd ddiwethaf.
Polisi Bananas sydd gan Blaid Cymru ar gyfer gwella iechyd y genedl hefyd.
Yn eu cynhadledd y penwythnos diwethaf roedd sôn am “agenda ataliol”, sef atal pobol rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf drwy fuddsoddi mewn canolfannau hamdden ac annog bwyta’n iach… sef mwy o fananas a dosbarthiadau zumba.
Ysywaeth, rhaid ochneidio ac edliw: ‘Oh na thasa hi mor syml â hynny!’
Pigiad Ozempig yn achubiaeth?
Yr wythnos hon clywyd gan Brif Weinidog Prydain eu bod nhw yn ystyried rhoi pigiadau o’r cyffur Ozempig i bobol ordew sy’n ddi-waith, er mwyn iddyn nhw fedru codi a mynd allan i ennill eu bara menyn.
“Fe allai’r cyffuriau hyn fod yn bwysig iawn i’n heconomi,” meddai Keir Starmer, “ac yn bwysig iawn o ran lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.”
Mae’n debyg fod trin gordewdra yn costio £11 biliwn i’r Gwasanaeth Iechyd yn flynyddol, sy’n fwy na’r gost o drin afiechydon yn deillio o smocio.
Fe allai Ozempig ein gwneud yn genedl deneuach, tanio’r economi ag achub y Gwasanaeth Iechyd.
Ac os ydy hynny’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, cysurwch eich hun gyda banana.