Mae Llywodraeth Cymru dan y lach am wario £16,000 mewn bwyty yn Efrog Newydd…

Sut ydych chi’n dathlu diwrnod Dewi Sant?

Cacennau Cymreig, bara brith, ta gwisgo het cennin Pedr?

I Lywodraeth Cymru, dyw’r opsiynau yma ddim ar y fwydlen.

Yn ddiweddar daeth i’r amlwg bod gweinidogion wedi gwario £15,933.45 mewn bwyty yn Efrog Newydd, a hynny mewn digwyddiad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant i “hyrwyddo Cymru” ar y llwyfan rhyngwladol.