Enw llawn: Yve Forrest

Dyddiad geni: 1967

Man geni: Lerpwl, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd


Cafodd Yve Forrest ei magu yn Lerpwl yn un o chwech o blant, gyda deunaw mlynedd rhyngddi hi a’i brawd hynaf. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu. Hi yw perchennog a sylfaenydd Cegin Yve – lle mae’n pobi cacennau, byrbrydau organig a danteithion artisan. Does dim gwell ganddi na nwyddau organig a bwyd ffres o safon. Coginio a dawnsio yw ei phrif ddiddordebau, a phetai’n gorfod disgrifio’i hun mewn tri gair, ‘brwdfrydig, disglair a phositif’ fyddai’r geiriau hynny. Mae ganddi atgofion hapus o’i phlentyndod.

“Dw i ag atgof melys o fy nhad ar wyliau’n creu siglen i mi, mewn perllan eirin du. Dyma fe’n dod â chadair bren gyda breichiau o’r gegin a rhaff, a rhoi’r gadair yn y goeden, yn hongian o’r rhaff. Dyma fe’n dodi fi ar ben clustog ar y gadair a gwthio fi yn yr haul; fi a fy chwaer yn cymryd ein tro yn y siglen newydd. Atgof hapus. O fewn dwy neu dair blynedd, fu farw fy nhad pan oeddwn i newydd droi’n chwe blwydd oed,” meddai.

Mae’n sôn bod posibl i’w chariad at goginio fod wedi tyfu allan o ddiflastod y Sul.

“Pan oeddwn i’n fach, doedd dim llawer i’w wneud ar y Sul, heblaw am dy waith cartref, yr eglwys, mynd am dro a choginio! Felly, roeddwn wedi arfer pori trwy lyfrau ryseitiau fy mam, ac ro’n i’n coginio cacennau siocled, brownies, cacen sbwng ac ati, drwy’r amser.”

Yn y flwyddyn 2000, fe wnaeth Yve gyfarfod ei gŵr Lascelles, sy’n wreiddiol o Jamaica, mewn parti tŷ yn ne Llundain. Bellach, mae ganddyn nhw bump o blant. Mae gan Lascelles ddwy ferch o’r enw Tashara a Jamilia, ac mae gan Yve un mab, Gruffudd, ac mi gawson nhw Cai a Macsen gyda’i gilydd.

Ond dyw bywyd ddim wastad wedi bod yn rhwydd i Yve. Er, mae hi’n wynebu pob anhawster bellach yn benderfynol o wneud y gorau o bob diwrnod gyda’i gŵr, ei theulu a’i ffrindiau.

“O golli fy nhad pan o’n i newydd droi’n chwe blwydd oed, i fagu fy mab cyntaf ar fy mhen fy hun, symud i Lundain gyda mab pedair a hanner mlwydd oed, roedd hi fel newid byd! Diolch i ffrindiau a theulu cefnogol, wnes i fe! A daeth yn rhwyddach ar ôl cwrdd â fy ngŵr. Yna, mewn un ffordd, daeth bywyd yn anoddach hefyd oherwydd dw i’n gweld y ffordd mae hiliaeth wedi effeithio arno fe a’i deulu yn uniongyrchol ac yn hanesyddol.

“Os ydych chi’n cael cyfle, gwyliwch y ffilm Windrush Cymru @ 75 gan Race Council Cymru. Mae’r gŵr yn sôn am rai o’r heriau wnaeth ei deulu eu hwynebu. Rwy’ mor ddiolchgar bod gennym ni berthynas gref sydd wedi para dros 24 mlynedd!”

Mae’n dweud eu bod yn wynebu eu her fwyaf fel cwpl a theulu ar hyn o bryd, ar ôl i Lascelles dderbyn ‘diagnosis marwol’.

“Rydyn ni’n ceisio ymdopi, ond mae’n anodd, yn enwedig i’r plant sydd adre’ o hyd. Mae’n sialens yn bendant, ond ar yr ochr bositif rydyn ni’n gwerthfawrogi bob dydd, pob eiliad rydyn ni gyda’n gilydd. Dewch ’nôl ata’ i ar ôl deng mlynedd, a wna i ateb hwn… ar hyn o bryd, y teimlad presennol yw, yn ôl Maya Angelou, “And still I rise!” Dw i jyst yn ceisio ymdopi â phob dydd.”

‘Rhyddid i Balesteina’

Mae yna restr o bethau sy’n cythruddo Yve Forrest – o gwmnïau mawr sydd ddim yn talu’u trethi, i fusnesau mawr sy’n gwneud dim i stopio newid hinsawdd.

Un o’r sefyllfaoedd cyfredol pwysicaf i Yve yw sicrhau rhyddid i Balesteina.

“Mae’r holl fomio a lladd sydd yn mynd ymlaen, am flwyddyn nawr, yn ofnadwy. Wnaeth e ddim cychwyn llynedd, mae e wedi bod yn mynd ymlaen dros 75 mlynedd. Mae angen stopio Israel – fel y dywediad, “Byth eto!” Mae’n meddwl byth eto i bawb. Ddylai plant a merched ddim bod yn cael eu lladd; ni ddylai ysgolion, prifysgolion ac ysbytai fod yn darged,” meddai, cyn ychwanegu nad yw’n deall pam nad yw’r Cymry yn protestio fwy, “nac yn deall yr hyn sydd yn mynd ymlaen yna, fel y Gwyddelod”.

“Dychmyga basa pobol cymryd dros dy fferm heb reswm, achos bod eu cyndeidiau wedi byw yna dros 2,000 mlynedd yn ôl. Jyst dod, eistedd yn dy dŷ, a dweud wrthyt ti i fynd gyda’r heddlu’n gefn iddyn nhw, er bod y llysoedd yn gwybod taw ti sydd yn bia’r tŷ. Yna, os dwyt ti ddim yn gadael, maen nhw’n dy saethu.

“Mae’n digwydd i Gristnogion ac Arabiaid ym Mhalesteina bob wythnos. Mae pobol Palesteina’n gwrthryfela ar ôl degawdau o driniaeth ofnadwy. Bu Desmond Tutu yn ymweld â Phalesteina cyn ei farwolaeth a mynnu rhyddid i bawb; roedd e’n deall bod y system sydd ym Mhalesteina yn system apartheid lawer gwaeth na’r system a fu yn ei lle yn Ne Affrica.”

Marilyn Monroe

Tasa Yve Forrest yn cael treulio un diwrnod efo unrhyw un yn fyw neu’n farw, efo Marilyn Monroe fyddai hynny.

“Roedd Marilyn Monroe yn ffigwr diddorol iawn, roedd hi’n edrych mor fregus. Pan oeddwn i’n ifancach, roeddwn i wedi darllen sawl llyfr am ei bywyd; teimlaf fel bod angen ffrind da arni, i fod yn gefn iddi, a gyda chymorth gallai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn. Dw i’n teimlo’n drist doedd ei phriodas i Arthur Miller ddim wedi gweithio allan. Mae 36 yn ifanc, rhy ifanc i farw. Cafodd hi ei geni yr un flwyddyn â fy mam, ac eto roedd eu bywydau mor wahanol.”

Petai hi’n medru rhoi cyngor iddi hi ei hun yn ferch fach, peidio â bod mewn hast fyddai hynny, gan gymryd ei hamser a phwyllo.

“Nawr, gyda fy mhlant a’m hwyrion, dw i’n eu gweld nhw’n ceisio tyfu lan yn rhy gyflym. Mwynha fod yn blentyn, dim ond deunaw mlynedd o fod yn blentyn sydd gyda ti; fyddi di’n oedolyn am dros 70 mlynedd. Gwna i’r deunaw mlynedd gyfrif, a phaid â bod ar ormod o frys!”