Portread o Osian Llywelyn

Mae Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg wedi mopio gyda cherddoriaeth y 1960au ac yn casglu hen recordiau feinyls ers ugain mlynedd a mwy.

Yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Rheoleiddio swyddfa’r Comisiynydd, ers dechrau’r flwyddyn mae Osian Llywelyn yn Ddirprwy i Efa Gruffudd Jones.

Tu hwnt i’r swyddfa a’r safonau iaith, bu’r tad i ddau sy’n 40 oed yn cyflwyno ar Radio Cymru 2 am gyfnod.