Mae’r cerddor adnabyddus ar fin cyhoeddi “rhyw ffurf o gofiant”, a hynny mewn arddull yr un mor swynol â’i ganeuon…

Salem yw record hir enwocaf Endaf Emlyn, ac mae hi’n 50 oed eleni. Mae’r cerddor, sydd hefyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed eleni, felly wedi mynd ati i hel atgofion mewn llyfr o’r enw Salem a Fi a fydd ar gael yr wythnos nesaf.

Nid oedd wedi gweld rheswm da dros gyhoeddi ei atgofion cyn hyn, meddai yn y llyfr – ond wrth aros am sgan uwchsain yn Ysbyty Mynydd Bychan, Caerdydd yn 2021, dyma fe’n newid ei feddwl.

“Dw i’n dod o genhedlaeth lle doedd rhywun ddim yn barod iawn i ymhonni neu i roi ar goedd – i beidio sôn amdanon ni’n hunain,” meddai Endaf Emlyn wrth Golwg. “Fy ngreddf i ydi i beidio gwneud hynny. Os sgrifennu rhyw ffurf o gofiant, mae’n rhaid gwneud hynny.

“Ges i ryw salwch a ges i gyfnod o feddwl fy mod i mewn cyflwr difrifol, ac mi wnaeth hynny fy nghymryd i hel meddyliau am y bywyd dw i wedi byw cyhyd, a phwyso a mesur beth oedd ei natur o, ei werth o ac yn y blaen. Dyna wnaeth gychwyn y syniad.”

Yn 1908 paentiodd Curnow Vosper y llun ‘Salem’ – fe gâi pobol brint o’r llun drwy anfon pacedi saith pwys o sebon i bencadlys Sunlight Soap. Fe brynodd Syr Ifan ab Owen Edwards filoedd o brintiadau a’u cynnig i gefnogwyr yr Urdd am chwe cheiniog – a dyna sut daeth ‘Salem’ yn boblogaidd iawn yng nghartrefi’r Cymry. Yn nhŷ ei fodryb Nel yn Llanfairfechan y sylwodd Endaf Emlyn ar y darlun am y tro cyntaf.

Ar ôl cyhoeddi ei record gyntaf, Hiraeth, aeth ati i weithio ar y record gysyniadol gyntaf yn y Gymraeg. Drwy sefydlu ei ganeuon ar gymeriadau ‘Salem’ yn y llun o’r capel bach yn Ardudwy, fe baentiodd ei ddarlun cerddorol ei hun o’r gymdeithasol werinol Gymraeg unigryw honno y cafodd ei magu ynddi. Cafodd Salem groeso bron yn syth ac mae wedi dal ei thir, ac yn cael ei pharchu gan gasglwyr recordiau o bedwar ban.

“Do’n i ddim wedi meddwl am funud y byddai yna sôn am ddathlu hanner canrif, achos doeddwn i byth wedi meddwl y byddai hir oes iddo fo,” meddai Endaf Emlyn. “Cyfrwng eitha’ ffwrdd â hi ydi’r cyfrwng canu pop. Do’n i ddim wedi meddwl y byddai pobol yn defnyddio geiriau fel ‘eicon’ a ‘chlasur’ ac yn y blaen. Mae hynna wedi bod yn syndod i mi.”

Ar ôl cyhoeddi Salem, fe gafodd wahoddiad i sgrifennu arwyddgan i gyfres deledu newydd, Pobol y Cwm – ac mae hithau eleni yn 50 oed. Faint o Salem sydd yng ngherddoriaeth Pobol y Cwm, felly?

“Ro’n i’n gwybod bod John Hefin [pennaeth Adloniant BBC Cymru] yn hoff o Salem ac wedi gofyn am rywbeth oedd yn debyg ond yn wahanol,” meddai’r cerddor. “Mae hi’n defnyddio’r un elfennau a sain, wedi ei hangori yn y gitâr acwstig, felly mae hynny’n gyffredin i’r ddau. Yn adleisio o gerddoriaeth werin, ac mae yna dinc emynyddol ynddo os yw rhywun yn mynd i chwilio amdano fo – collage sain o fywyd Cymreig. Ac yn defnyddio’r un dechneg o recordio. Ro’n i yn gwneud y rhan fwya’ ohono fo fy hun, yn ei recordio fo i gyd ar yr aelwyd.

“Dw i’n ddiolchgar i Salem am agor drysau eraill i mi. Roedd o’n rhyw ddangos fy mod i’n medru rhoi syniad at ei gilydd, rhoi ffurf iddo fo a chynhyrchu rhywbeth. Dw i’n credu bod hwnna wedi bod yn help i mi mewn gyrfa ddarlledu.

“Yn benodol fe ddoth Pobol y Cwm yn sgil hynna, a hefyd [y sioe gerdd] Melltith ar y Nyth – dw i’n cofio fod Rhydderch Jones [o adran adloniant BBC Cymru] wedi clywed Salem. Roedd nifer o bethau a ddaeth o werthfawrogiad pobol o Salem, ac mae’n dal i wneud i raddau… Peth rhyfeddol oedd hynny.”

Mwynhau sgrifennu am y dyddiau cynnar

Mae arddull Salem a Fi yn fywiog braf, a’r Gymraeg yn raenus – yn adleisio’i ganeuon i’r dim. Mae’n amlwg iddo gael hwyl ar sgrifennu am hanes y teulu a’i blentyndod.

“Mae hi’n dipyn bach yn groes i fy natur i ddweud – ‘sbïwch beth rydw i wedi bod yn ei wneud’,” meddai. “Roedd sôn am lefydd yn y 1950au, a’r Felinheli yn y 1940au yn y dod yn fwy cartrefol i fi nac i restru pethau dw i wedi’u gwneud.”

Am ei fod yn ganwr o fri yn blentyn, cafodd gynnig i fynd i goleg corawl i fechgyn, Eglwys Gadeiriol St. Paul yn Llundain, ond gwrthod a wnaeth. Mae’n meddwl weithiau pe bai wedi mynd, y byddai yn ‘berson tra gwahanol heddiw’. Chwaraeai’r ffidil yng Ngherddorfa Cymru, yr un pryd â’r darpar seren roc John Cale oedd yn chwarae’r feiola, a’r cyfansoddwr clasurol Karl Jenkins (obo). Mae’n sôn am y John Cale eofn yn hawlio’i het wellt oddi wrtho, ac yntau’n rhy swil i ofyn amdani’n ôl.

Yn fyr iawn mae’n cyfeirio at rai o’r ffilmiau bu’n cyfarwyddo yn y 1980au a dechrau’r 1990au – fel Un Nos Ola Leuad, Stormydd Awst, Shampŵ, Gaucho, Gadael Lenin a’r ffilm i blant, Y Dyn ’Nath Ddwyn y Dolig.

“Byrdwn y llyfr ydi hanes y canu, nid cynhyrchu’r rhaglenni – llyfr arall fyddai hwnnw,” meddai. “Meddwl oeddwn i, pe bawn i’n cychwyn wrth sgrifennu am Salem a hefyd am Y Dyn ’Nath Ddwyn y Dolig, Gadael Lenin, Un Nos Ola Leuad ac yn y blaen, y byddai o’n mynd yn llyfr trwm iawn. Dw i’n cyfyngu maes y llyfr i’r profiadau a ddaeth i fi yn gwisgo het y canwr, nid het y cyfarwyddwr.”

Detholiad o lyfr Endaf Emlyn

Yma mae yn dychmygu Curnow Vosper yn cyrraedd Capel Salem yn 1908…

Yn ôl y cloc ar y wal, mae hi’n tynnu am ddeg o’r gloch y bora, wrth i’r bobol setlo yn eu seddi yng Nghapel Salem. Mae’r pendil wedi ei ddal ar gychwyn ei sigl, i gyfleu fod amser yn pasio, ond ar yr un pryd, wedi ei ddal yn ddisymud yn yr eiliad. Rydan ni yn y presennol hwnnw, yng Nghwm Nantcol, yn 1908, gwta bedair blynedd wedi Diwygiad ’04. Daw’r arlunydd Curnow Vosper, yn seiclo dros Bont Beser, i gyfeiriad Capel Salem, gydag un law ar ei het, y gwynt yn llenwi ei smoc, a’i baent a’i bapur yn bowndian ar ei gefn. Un sy’n hanu o Gernyw ydy o, yn ôl yn ddiweddar o deithio yn Llydaw, lle cafodd hwyl yn peintio merched yn ardal Morbihan, yn gwisgo’u dillad gwerin i fynd i’r eglwys.

Mae Curnow a’i wraig, y Gymraes o Ferthyr, y foneddiges Constance James, wedi cael mwydro’u penna gan ramant Arglwyddes Llanofer, i gredu fod merched Cymru oll yn mynd o gwmpas eu pethau o dan eu hetiau tal. Tydy o heb weld yr un eto. Ond mae sôn bod yna un het yn y tŷ capel. Honno fydd yn cael ei benthyg, i bob un o’r tair merch ei gwisgo, yn ei thro. Bydd yr ychydig geiniogau yr awr gawn nhw yn ddigon i’w perswadio nhw i wisgo’r hen ddillad. Mi fydd o yno am dair wythnos, yn peintio Salem, a Diwrnod Marchnad, a Siân Owen, Ty’n y Fawnog fydd ei brif destun. Wn i ddim os ydy o’n gobeithio creu’r eicon Cymreig, y bydd pobol yn sgwennu amdano, a hyd yn oed rhywun yn gwneud record amdano fo, a go brin ei fod o’n meddwl am y sebon wnaiff y darlun ei werthu. A does yna ’run diafol ar ei feddwl o.

Mae un blaenor yno yn ei ddisgwyl, Robat Williams, o Gae’r Meddyg, yn gyndyn, faswn i’n meddwl, i ista yn unrhyw le ond yn ei sedd ei hun, o dan y cloc. Ond Siân Owen sy’n cael prif sylw Curnow. Mae hi wedi dãad yn ei siôl, ond tydy’r siôl ddim digon diddorol iddo fo, ac yntau wedi gobeithio gweld defnyddiau coeth fel y peintiodd o yn Llydaw. Rhaid fydd gofyn am gael benthyg siôl Mrs Williams, gwraig ficer Harlech. Faswn i’n meddwl fod Owen Siôn am iddo fo styrio. Mae gwaith go iawn yn ei aros ar ei dyddyn.

Mi ddaw mwy nag un Evan i’r sesiwn: Evan Rowlands ac Evan Edward Lloyd. Maen nhw’n gefndryd. Mae Evan Rowlands yn ddall, ac efallai oherwydd hynny, a chanddo duedd i wingo wrth droi ei ben i synhwyro beth sy’n digwydd o’i gwmpas. Evan Edward Lloyd, yn chwech oed, gymerodd ei le. Mae Curnow yn rhoi bocs Quaker Oats iddo, yn lle’i fod o’n troi tudalenna llyfr emyna yn ddi-baid. Sgwn i o ble y daeth y bocs Quaker Oats? O’r tŷ capel, faswn i’n tybio, lle mae nain Evan yn byw. Ymhen blynyddoedd, bydd Evan yn ymgartrefu yn Llanberis. Daw’n fawr ei barch yn yr ardal, yn gymwynaswr, yn ganwr, ac yn gynhyrchydd dramâu. Y fo fydd yn rhoi’r rhan actio gyntaf ar lwyfan i Wilbert Lloyd Roberts. Daw Wilbert yn ei dro yn gyfarwyddwr drama gyda’r BBC, a fo fydd y cyntaf i ’nghyfarwyddo inna, yn Y Llyfr Aur, ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli ’55. Ac yn 1974, yn ddiarwybod ’mod i’n cloi cylch bychan o fân gysylltiada, mi sgwenna i gân am yr Evan Edward Lloyd yma. Does dim arwyddocâd mewn perthynas ar hap felly; dim ond rhyw gysur ddaw o deimlo’n bod ni’n perthyn i’n gilydd, bod ganddon ni i gyd ein clwt bychan yn y cwilt mawr.

Ychydig oedd wedi ei sgwennu am Salem y llun pan es i ar ôl yr hanes yn ’74. Doedd dim cyfrifiaduron yn bod. Roedd hi’n fyd papur a phensal, yn hapus ddi-Ŵgl. Rhaid oedd ymweld â Llyfrgell y Ddinas i chwilio am y ffeithiau, i edrych yn y blychau cardiau indecs am fynegai’r deunydd. Deuai ôl-rifynnau’r Cymro, a’r Cambrian News, a’r Herald Cymraeg o’r cefna wedyn, wedi eu rhwymo rhwng cloria lledr, yn bentyrrau trymion ar fyrdda hirion y llyfrgell, ac ogla’r gorffennol arnyn nhw. O’r hen bapurau newydd rheiny y daeth hynny wyddwn i am Salem wrth fynd ati i gyfansoddi’r gwaith.

Yn dilyn fy mhrofiadau yn gwneud Hiraeth, dan bwysau y gyllideb a’r cloc, o’n i’n gweld yr apêl o recordio’r cyfan fy hun ar yr aelwyd. Yn ’68 daeth peiriant TEAC ar y farchnad oedd yn recordio pedwar trac ar y tâp chwarter modfedd. Fe welwn i y medrwn i ‘wneud record’ efo hwnnw, ac fe’i prynais. Mae clawr Salem yn datgan iddi gael ei recordio yn ‘Stiwdio Madryn’. Y gegin gefn a’r TEAC oedd honno, ac yn symudol o’n tŷ ni yn Radur, Caerdydd, i dŷ Mike yn Walthamstow, Llundain. Roedd Mike a fi yr un oed, â’r un chwaeth gerddorol, ac wedi i ni ddatblygu ein llaw fer trwy weithio efo’n gilydd yn Abbey Road, ac yn Rockfield, roeddan ni’n dallt ein gilydd yn rhyfeddol.

Fe es at brosiect Salem o ddifri. O’n i wedi gwneud yr holl waith creadigol o’i sgwennu cyn cychwyn ar y recordio, gyda’r un ddisgyblaeth faswn i’n dod i’w defnyddio gyda’r ffilmiau. Fe recordiais i’r cyfan yn fras ar beiriant tâp Sony, i ni gyfeirio ato wrth greu’r record ar y TEAC. Roeddan ni’n ‘bownsio’ traciau lluosog o drac i drac wrth fynd, a thrwy hynny yn recordio mwy na phedwar trac. Roedd fel gwneud teisen fesul haen; doedd dim troi ’nôl.

‘Ymateb ffafriol iawn’

Es i â’r tâp gorffenedig i swyddfa Sain ym Mhen-y-groes a’i roi ar y ddesg. O’n i’n gyfarwydd â gwaith Dafydd Iwan a Huw Jones, ac roedd gen i feddwl mawr ohonyn nhw fel dau gerddor egwyddorol a mentrus. O’n i’n awyddus i weithio gyda’r label newydd. Mi ges ymateb ffafriol iawn, ac fe ryddhawyd Salem ar label Sain yn 1974. Doeddwn i ddim isio rhoi’r darlun fel ag y mae o ar y clawr. Ro’n i’n teimlo’i bod hi’n bwysig i gyfleu mai ailddyfeisio, neu ail-greu’r darlun mewn caneuon, oedd fy mwriad. Mae Elwyn Davies wedi cyfleu hynny’n effeithiol iawn trwy ddangos manylder y brif elfen, Siân Owen a’i siôl, ond awgrymu’r gweddill drwy amlinelliad, fel pe bai’r gwaith ‘ar y gweill’.

Cafodd y record groeso. Roedd y cyfuniad o’r alawon gwerin a’r caneuon emynaidd, ar destun y darlun eiconig, wedi taro deuddeg. Roeddwn i’n gweld ein bod yn gadael ffordd o fyw, fod byd y capel ar drai, a’n bod ni’n colli rhywbeth oedd yn werthfawr iawn, ond does dim edrych yn ôl i bwyso a mesur, na gofyn ai er gwell yn llwyr y bu’r dylanwad Anghydffurfiol hwnnw ai peidio. Mae’r record yn dewis aros, fel y mae’r darlun, o fewn ffrâm yr heddiw hwnnw.