Mae rasys yn cael eu cynnal yn y tywyllwch er mwyn codi arian i helpu plant sy’n ddifrifol wael…

Dros yr wythnosau nesaf bydd hosbis i blant yn annog pobol i redeg yn y tywyllwch o amgylch dau o gestyll y de a’r Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Tŷ Hafan yw’r elusen sy’n helpu plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau, a bydd eu ‘Rasys Tywyll’ i godi arian at yr achos yn cael eu cynnal mewn tri lleoliad.