Yma mae Elfed Saunders Jones yn egluro’r weledigaeth wefreiddiol tu ôl i’w opera roc newydd-ish sydd wedi ei hysbrydoli gan ddigwyddiadau rhyfedd ar y naw…

Mewn oes lle mae ’digon da’ yn rhywbeth i’w ddathlu, a gwir arloesi’n cael ei anwybyddu’n llwyr, rwy’n petruso braidd wrth gyhoeddi bod fy nhrydedd opera roc, Cofiwch Roswell, bellach ar gael i’w chlywed yn ddigidol am y tro cyntaf.