Mae pobl ifanc yng Nghymru yn cael eu hannog i sefyll ar gyfer Senedd Ieuenctid nesaf Cymru.

Bydd rhaid i’r rhai sydd â diddordeb wneud cais erbyn dydd Llun nesaf (30 Medi).

Yn ôl Lloyd Warburton, cyn-Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, mae’n gyfle gwych i “gyfarfod pobl o gefndiroedd gwahanol ar draws Cymru”.

“Rydw i o Geredigion, felly mae lot o bobol dwi’n siarad efo nhw yn arferol yn gweld yr un fath o broblemau,” meddai Lloyd wrth Bwrlwm.