Fuoch chi’n dilyn y sgandal am sbectols a siwtiau swanc Prif Weinidog gwledydd Prydain?

Mae Keir Starmer yn filiwnydd ac, ers 2015, mae yn Aelod Seneddol tros Holborn a St Pancras yn Llundain, ac felly yn gymwys i hawlio bob math o expenses ar bwrs y wlad.

Ond doedd hyn ddim yn ddigon.

Mae wedi dod i’r amlwg iddo gael gwerth £16,000 o ddillad a sbectols £2,485 gan ei gyfaill yr Arglwydd Alli o’r Blaid Lafur.