Roedd Elinor wedi caru’r hydref ers y dechrau un. Rhywbeth am ansawdd y golau, fel petai yna wawr euraidd iddo o hyd, a phob machlud bendigedig yr un lliw â mêl. Y mwyara a’r hel ‘fala ac eirin mair; y defodau diwedd haf. Newid y llenni am rai trwm, rhoi’r dillad haf a’r peiriant torri gwair i gadw. Hwylio cawl trwchus i stemio’r gegin yn lle’r salad ysgafn arferol. Swatio; nythu; clwydo.