Prin y byddaf yn ymateb i’r rheiny sy’n ymateb i fy llith yn y cylchgrawn hwn. Yn wir, mae’n braf cael darllen barn y rheiny sy’n anghytuno â mi. Mae’r wasg Gymraeg yn brin o drafodaethau o’r fath.
Ond mae gennyf air neu ddau i’w gynnig mewn ymateb i ‘Ddarn Barn’ Steve Eaves a’i gyfeillion [‘Hamas yw’r broblem?’, Golwg 19/09/24], yn dilyn f’erthygl am Hamas [‘Hamas yw’r broblem’, Golwg 12/09/24], y terfysgwyr fu’n saethu a llosgi plant yn fwriadol, wrth ymosod ar Israel ym mis Hydref 2023.
Dyma gwestiwn yr hoffwn ateb iddo. Beth yw eu barn am arweinwyr Hamas? A ydynt am weld troseddwyr y corff yn dal i deyrnasu yn Gaza, gan gaethiwo a gormesu pobl y wlad am ddegawdau i ddod? Ac i ddwyn eu harian, a’r arian a roddir i Gaza gan wledydd eraill? Tra’n dal ati i ladd Iddewon?
A ydynt yn feirniadol o Hamas o gwbl? Rwy’n gorfod gofyn, gan na fu unrhyw asesiad o werthoedd y corff yn yr ymateb.
Dyma ragymadrodd cyfamod gwreiddiol Hamas (1988):
‘Israel will exist and will continue to exist until Islam will obliterate it, just as it obliterated others before it.’
Mae’r cyfamod hefyd yn esbonio:
‘The Day of Judgment will not come about until Moslems fight Jews and kill them.’
Efallai nad yw geiriad cyfamod newydd Hamas cynddrwg (2017), ond mae erchyllwaith Hydref 2023 fel petai’n arwydd fod dyheadau siarter 1988 yn dal i fod yn flaenoriaeth i Hamas.
A dyma gwestiwn arall: er mor erchyll yw’r gweithredoedd ar y ddwy ochor yn y rhyfel, oes gan Israel yr hawl i amddiffyn ei hun wrth i Hamas a Hezzbolah, gyda chymorth Iran, gynllwynio i ddinistrio’r wlad a lladd Iddewon?
Yn y cyfamser, mae cefnogwyr Hamas yn y gorllewin yn galw ar i Balesteina fod yn rhydd o’r afon i’r môr. Mae’n syndod gymaint nad sy’n gwybod pa afon a pha fôr sydd o dan sylw. Mae modd i chi weld ar YouTube llawer o fyfyrwyr yn methu ateb y cwestiwn, wrth iddynt brotestio am Israel – ac yna’n ei chael yn anodd cyfiawnhau beth fyddai’r effaith ar Iddewon Israel pe byddai’r alwad yn cael ei gwireddu. Nid ydynt yn sylweddoli, ychwaith, fod rhan helaeth o’r byd Arabaidd wir yn ofni eidioleg Muslim Brotherhood y Palestiniaid ac, o’r herwydd, heb fod yn gefnogol iddynt yn hanesyddol. Mae’n werth i chi ddarllen am hyn.
Hawliau menywod
Cwestiwn arall i awduron y darn barn: a fyddent yn cefnogi, dathlu a chanmol sefydlu Palesteina wedi ei rheoli gan Hamas? Ac os felly, a fyddent yn pryderu am hawliau menywod ym Mhalesteina?
Mae’r rheini sy’n condemnio Israel yn hoff o’i galw’n genedl apartheid, heb sylweddoli (neu dderbyn) fod Arabiaid Israel, sy’n 20% o’r boblogaeth, yn ddinasyddion llawn o’r wlad. Yn y cyfamser, yr apartheid gwaethaf sy’n bodoli, heddiw, yw’r apartheid yn erbyn menywod yng ngwledydd Islamaidd y byd. Heddiw, wrth i chi ddarllen hwn, mae yna gannoedd o filiynau o fenywod yn cael eu trin yn ofnadwy. Beth am eu cefnogi, tra’n condemio cyrff megis Hamas, sy’n eu caethiwo?
Fel y gwyddom, nid oes hawl gan y menywod yma i ddangos eu hwynebau yn gyhoeddus. Fe gofiwch i heddlu Iran ladd Mahsa Amini am iddi ‘fethu gwisgo ei hijab yn unol â safonau’r llywodraeth’. Meddai Amnest Rhyngwladol am y wlad:
Iranian authorities are waging a war on women…through subjecting women and girls to constant surveillance, beatings, sexual violence, electric shocks, arbitrary arrest and detention.
Mae hyn yn digwydd ar draws y byd. Yn Vancouver, fe gurwyd Yasmine Mohammed gan ei gŵr am dynnu ei hijab yn ei chartef – gan fod pobl yn gallu ei gweld drwy ffenestri’r tŷ.
Meddai Yasmine am yr hijab: it suppresses your humanity entirely; it’s like a portable sensory deprivation chamber – you can’t see, hear or speak properly. People can’t see you; little things like passing people on the street and making eye contact or smiling – thats gone. You are no longer part of this world. You quickly shrivel up into nothing under there.
Mae’n werth i chi ddarllen ei llyfr: Unveiled: How Western Liberals Empower Radical Islam.
Dyma ambell i enghraifft arall o’r apartheid:
- mae yna 15 gwlad, gan gynnwys Gaza, sydd â deddfau (deddfau!) yn gorfodi menywod i ufuddhau i’w gŵyr;
- mae angen caniatâd eu gŵyr ar fenywod cyn gweithio, teithio, astudio neu dderbyn gofal meddygol;
- mae gan 104 gwlad ddeddfau sy’n cyfyngu ar ba swyddi y gall menywod eu gwneud;
- mae gan 17 gwlad ddeddfau sy’n gorfodi menywod i briodi y rhai a’u treisiodd;
- priodwyd 650 miliwn o fenywod, yn erbyn eu hewyllys, pan oeddent yn blant;
- lleddir 5,000 o fenywod mwslemaidd pob blwyddyn o dan y system honour killings.
Bûm i weld Steve Eaves yng Nghlwb y Bont, adeg Eisteddfod Pontypridd (roedd y gyngerdd yn un da). Perfformiodd o flaen baner Palesteina.
Y tro nesaf rwy’n dod i dy weld, Steve (os caf), mawr obeithiaf y byddi di’n condemio Hamas yn gyhoeddus, tra’n perfformio o flaen lluniau o Mahsa Amini – a menywod distaw Afghanistan yn eu burkas.
A dyma slogan newydd i ti: from the river to the sea, every woman shall be free.