Mae’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn ei hôl a rhanbarthau Cymru yn herio goreuon yr Alban, Werddon, yr Eidal a De’r Affrig. Seimon Williams sy’n cloriannu’r rownd gyntaf o gemau…
Pleser anghyfarwydd yw gallu ysgrifennu’n bositif ar rygbi’r penwythnos! Oes, mae angen pwyll, ac mae angen ystyried y cyd-destun, ond anarferol iawn yw gweld mwy o brif dimau Cymru yn ennill na cholli erbyn hyn.