Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Cymru sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, yn annog grwpiau cymunedol i wneud cais am arian grant i helpu’r Gymraeg i ffynnu.

Daw’r anogaeth ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae heddiw (dydd Mawrth, Hydref 15), gydag arian ar gael drwy Gynllun Grantiau Bach prosiect Perthyn i helpu’r Gymraeg i ffynnu.

Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grant bach i’w helpu i sefydlu menter gymdeithasol newydd, a/neu brosiectau tai gaiff eu harwain gan y gymuned.

Nod y grant yw creu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy, a chefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â nifer uchel o ail gartrefi.

Dyma bedwaredd rownd y grant, a hyd yma mae 47 o brosiectau cymunedol wedi sicrhau cyllid.

‘Gwireddu syniadau cymunedau’

“Mae grantiau Prosiect Perthyn yn gyfle gwych i helpu cymunedau i wireddu eu syniadau,” meddai Mark Drakeford.

“Maen nhw wedi helpu grwpiau cymunedol i brynu a rhedeg eu tafarndai lleol fel yn Llanuwchllyn a Thafarn Dyffryn Aeron.

“Mae Perthyn hefyd wedi helpu Menter y Tŵr ym Mhwllheli i brynu a rhedeg gwesty sy’n eiddo i’r gymuned, yn ogystal â chefnogi prosiect ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned fel Egni Trefin.

“Gall grantiau bach wneud gwahaniaeth mawr yn eich cymuned leol, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniadau ar gyfer prosiectau er budd eu cymuned ac i gefnogi’r Gymraeg i wneud cais.”

Derbyniodd Egni Trefin grant o dros £10,000 i sefydlu menter gymunedol i archwilio ffyrdd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Mae Perthyn hefyd wedi cefnogi cymuned Clynfyw, gyda’r nod o brynu fferm gyda thir i’w rentu, bythynnod i bobol leol, a gwaith.

Hwb i’r economi leol

“Mae cyllid grant Perthyn yn parhau i fod yn elfen bwysig o ran cymorth ariannol i gamau cyntaf prosiectau cymunedol newydd a rhai sy’n ehangu sy’n datblygu mentrau i gefnogi’r Gymraeg a Chynlluniau Tai Cymunedol,” meddai Cris Tomos, Rheolwr Asedau Cymunedol Planed.

“Mae llawer o’r busnesau newydd wedi mynd ymlaen i sefydlu cwmnïau cydweithredol cofrestredig sydd bellach yn prynu tir ac eiddo er mwyn rhoi hwb i’r economi leol.”

Caiff y cynllun grant ei weinyddu gan Cwmpas ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni prosiect Perthyn,” meddai Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol Cwmpas.

“Mae Perthyn yn gweithio gyda chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â diffyg tai fforddiadwy, gwarchod asedau cymunedol a chreu cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol newydd.

“Mae gweinyddu cynllun peilot grantiau bach ar gyfer y cymunedau er mwyn helpu i feithrin gallu lleol a sbarduno eu syniadau o ran busnes a thai wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y syniadau’n datblygu ac at weithio gyda rhagor o gymunedau dros y misoedd nesaf.”