Does dim disgwyl y bydd perchnogion ail gartrefi yn Sir Benfro, sydd wedi gweld eu cyfraniad o 200% ar ffurf premiwm treth gyngor yn cyfrannu dros £9m at goffrau’r Cyngor y flwyddyn ariannol hon, yn gweld y lefel yn codi eto pe bai cynnig gerbron y Cyngor llawn yn cael ei gymeradwyo’n ddiweddarach yr wythnos hon.
Ers dechrau’r flwyddyn ariannol bresennol, mae perchnogion ail gartrefi wedi bod yn talu premiwm o 200% ar eu treth gyngor, sy’n gyfradd driphlyg mewn gwirionedd, yn dilyn cynnydd o’r 100% blaenorol (cyfradd ddwbwl).
O dan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gall awdurdodau lleol gynyddu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi hyd at 300%, sy’n gyfystyr â chyfradd bedair gwaith yn fwy.
Mae eiddo gwag hirdymor yn y sir hefyd yn destun premiwm treth gyngor: 100% ar ôl 24 mis, 200% ar ôl 36 mis, a 300% ar ôl pum mlynedd.
Cefnogi argymhelliad
Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Penfro ar Hydref 7, fe wnaeth aelodau gefnogi argymell i’r Cyngor llawn, fydd yn cyfarfod ar Hydref 17, y dylai’r premiwm ail gartrefi aros ar y 200% bresennol, gyda chyfraddau eiddo gwag hirdymor hefyd yn aros ar y lefel bresennol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys adolygiad o bolisi gostyngiad trwy ddisgresiwn y Cyngor mewn perthynas ag eiddo’n dychwelyd i’r rhestr treth gyngor o gyfraddau annomestig yn dilyn newid gan Lywodraeth Cymru i feini prawf 182 o ddiwrnodau ar gyfer rhyddhad ar gyfer llety gwyliau, gydag aelodau’r Cabinet yn argymell bod y Cyngor llawn yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru’n gofyn iddyn nhw ostwng y trothwy o 182 o ddiwrnodau.
Mae ymgynghoriad wedi’i gynnal yn Sir Benfro ar lefel premiwm y dreth gyngor, oedd wedi arwain at ymateb oedd bron â bod yr ymateb mwyaf erioed i’r Cyngor, gyda 2,974 o ymatbeion, gyda 2,155 ohonyn nhw gan bobol mae eu prif gartref y tu allan i Sir Benfro, ynghyd â 67 o ymatebion gan sefydliadau.
O Hydref 2017 i Awst 2024, roedd nifer yr ail gartrefi oedd yn talu’r premiwm wedi gostwng o 3,889 i 3,221 gydag eithriadau’n codi o 137 i 760 dros yr un cyfnod.
Fis Ebrill y llynedd, fe wnaeth cynghorwyr gefnogi defnyddio 75% o’r arian sy’n cael ei godi drwy’r premiwm ail gartrefi i ariannu elfennau o gyllideb y Cyngor mewn perthynas â thai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol, gyda’r 25% arall yn cael ei rannu 75%-25% rhwng y rhaglen Tai Fforddiadwy a chynllun Grant Gwella Sir Benfro.
O Ebrill 1 eleni, cafodd hynny ei newid i 85%, gyda’r 15% arall i’r ddau faes arall.
Ar gyfer eiddo gwag hirdymor, cafodd hyn ei bennu ar 100% ar gyfer elfennau o gyllideb y Cyngor yn ymwneud â thai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd ar gyfer cymunedau lleol.
Yn y ddwy flwyddyn ariannol flaenorol, roedd yr incwm ychwanegol wedi’i nodi fel Cronfa Wrth Gefn ar gyfer Eiddo Gwag er mwyn dod â chartrefi’n ôl i ddefnydd.
Adroddiad
Yn dilyn argymhellion y Cabinet, mae adroddiad gerbron cyfarfod y Cyngor llawn ar Hydref 17 yn gofyn i aelodau gefnogi argymhellion y Cabinet, gan ddweud bod “yr ymgynghoriad yn dangos bod rhai perchnogion ail gartrefi’n cefnogi’r angen am bremiwm treth gyngor, ond ar lefel is na’r 200% presennol”.
“Mae lefel bresennol y premiwm treth gyngor i’w gweld yn newid ymddygiad, gan ein bod ni’n gweld mwy o eiddo ar y farchnad a nifer y llety hunanarlwyo ac ail gartrefi’n dechrau gostwng.
“Mae gan y Cyngor broblem ddigartrefedd fawr o hyd, a thra bo’r farchnad yn symud mae lefel bresennol y premiwm treth gyngor yn cyflawni ei nod.
“Felly does fawr o reswm (na chefnogaeth) i geisio’i chynyddu.
“Tra bo’r ymgynghoriad yn dangos mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd i’r lefel bresennol o bremiwm treth gyngor ar ail gartrefi, a bod pryderon wedi’u mynegi gan y diwydiant twristiaeth, efallai ei bod hi’n rhy fuan i newid polisi sy’n ymddangos fel pe bai’n dechrau cyflawni ei nod o ostwng nifer yr ail gartrefi ac unedau hunanarlwyo.”
Dywed yr adroddiad fod premiymau ail gartrefi ac eiddo gwag wedi cyfrannu £10.8m at gyllideb y Cyngor mewn perthynas â thai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol yn ystod 2024-25, a £9.1m drwy ail gartrefi.
Dywed y byddai unrhyw ostyngiad i’r premiwm yyn cynyddu pwysau cyllidebol y Cyngor yn y dyfodol, gan restru effeithiau posib gostyngiad o 25% yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan arwain at gwymp o £1.3m ar gynnydd treth gyngor cyffredinol posib o 11.14% ac £1.2m ar gyfer cynnydd posib o 7.5%.