Mae cynlluniau i adeiladu fferm wynt chwe thyrbin tua deng milltir i’r gogledd o Gasnewyddd wedi cael eu cyflwyno.
Byddai Fferm Wynt Abertyleri yn creu digon o drydan i bweru 50,000 o gartrefi, gyda’r tyrbinau’n cyrraedd hyd at 200 metr o uchder ac â chapasiti o 36MW.
Pe baen nhw’n cael eu cymeradwyo, bydden nhw’n cael eu gosod rhwng Abertyleri ac Abersychan, ar y ffin rhwng Cynghorau Bwsdeistref Sirol Blaenau Gwent a Thorfaen.
Mae’r safle bron yn gyfangwbl ar dir comin Gwastad a Choety a Mynydd James.
‘Carreg filltir’
Y cwmni ynni adnewyddadwy RWE sy’n gwneud y cais, ac awdurdod Penderfyniadau Cynllunio Amgylchedd Cymru fydd yn ystyried y cais nesaf cyn i weinidogion Llywodraeth Cymru wneud y penderfyniad terfynol.
Mae RWE eisoes wedi cynnal ymgynghoriad gyda defnyddwyr y tir, trigolion yr ardal ac awdurdodau lleol, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi gwneud “asesiadau manwl” o’r ecosystem a bywyd gwyllt lleol, yn ogystal ag ystyriaethau gweledol, sŵn ac amgylcheddol.
“Y cyflwyniad hwn yw’r garreg filltir ddiweddaraf mewn prosiect a ddechreuodd yn 2020 a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu drwy gymryd amser i fynychu ein digwyddiadau cymunedol a rhannu eu barn ar y cynigion,“ meddai Oliver Piper, Swyddog Prosiectau RWE, sy’n arwain y datblygiad.
“Wrth fynd yn ôl at yr asesiadau cyntaf un ar y safle, mae ein cynllun bellach wedi’i lywio gan flynyddoedd o arolygon amgylcheddol, yn cwmpasu ecoleg, adareg, hydroleg, sŵn, y dirwedd ac ystyriaethau gweledol, ynghyd â mesuriadau tywydd, yn ogystal â’r adborth gwerthfawr gafodd ei dderbyn yn ystod ein dau gyfnod ymgynghori.
“Os caiff ei chymeradwyo, bydd Fferm Wynt Abertyleri a’i phecyn cymunedol cysylltiedig o fudd uniongyrchol i’r gymuned, yn cefnogi busnesau lleol a chadwyni cyflenwi, gan gefnogi uchelgais Cymru o gyflawni 100% o’n defnydd o drydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2035.”
‘Cyfle cyffrous’
Mae RWE hefyd wedi bod yn trafod cynigion i Gyngor Blaenau Gwent gymryd perchenogaeth rannol o’r cynllun.
“Dyma gyfle cyffrous i’r cyngor sydd nid yn unig yn cefnogi ein blaenoriaeth i ymateb i’r argyfwng natur a hinsawdd, ond mae’r buddsoddiad masnachol yn cynnig cyfle i gyflwyno buddion ehangach a fydd yn cefnogi cymunedau ym Mlaenau Gwent i ffynnu,” meddai Ellie Fry, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y Cyngor.
Mae disgwyl i benderfyniad terfynol gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yn 2025.