Mae Aelodau’r Senedd wedi clywed tystiolaeth ar ddilyn esiampl yr Alban drwy ddatblygu system adalw i alluogi pleidleiswyr i symud gwleidyddion sy’n camymddwyn o’u swyddi rhwng etholiadau.
Fe wnaeth Graham Simpson, sy’n Aelod o Senedd yr Alban, roi tystiolaeth heddiw (dydd Llun, Hydref 14) i Bwyllgor Safonau’r Senedd am ei fil adalw arfaethedig.
Dywedodd fod ei fil, fydd yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn, yn diarddel yn awtomatig unrhyw Aelod o Senedd yr Alban sy’n derbyn dedfryd o garchar am chwe mis neu fwy.
Yn yr un modd â Bae Caerdydd a San Steffan, deuddeg mis yw’r trothwy presennol, tra bod dedfryd o dri mis neu fwy yn arwain at ddiarddel cynghorwyr.
Eglurodd Graham Simpson y byddai’r bil yn ymestyn rheol i gynghorwyr i Aelodau o Senedd yr Alban, fel bod modd eu symud nhw o’u swyddi os nad ydyn nhw’n mynychu cyfarfodydd am chwe mis.
‘Problem’
Cymru fyddai’r unig un o wledydd Prydain heb fecanwaith tebyg pe bai’r bil yn cael cydsyniad yn yr Alban, ar ôl i Senedd y Deyrnas Unedig gyflwyno system adalw bron i ddegawd yn ôl.
Gofynnodd Hannah Blythyn, cadeirydd newydd y pwyllgor sy’n edrych ar yr opsiynau i ddilyn eu hesiampl, am yr hyn all arwain at ddeiseb adalw yn ôl cynnig yr Alban.
Dywedodd Graham Simpson y byddai’r hyn all arwain at ddeiseb yr un fath ag ydyn nhw yn San Steffan: cyfnod o garchar am ddeuddeg mis neu lai, gwaharddiad o ddeng niwrnod neu fwy, neu gollfarn am drosedd yn ymwneud â threuliau.
Gydag etholiadau’r Senedd yn symud at system hollol gyfrannol, a Chymru’n cefnu ar y system cyntaf i’r felin, fe wnaeth Mick Antoniw o’r Blaid Lafur gwestiynu sut y byddai’r system adalw’n gweithredu.
Bydd Cymru’n mabwysiadu system etholiadol “rhestr gaeëedig” yn 2026, a fydd is-etholiadau ddim yn cael eu cynnal er mwyn disodli gwleidyddion sy’n gadael eu swyddi, gyda’r ymgeisydd nesaf ar restr eu plaid yn dod i’r swydd.
‘A ddylai’r person hwn gadw ei swydd?’
Dywedodd Graham Simpson fod hyn yn achosi problem o dan system aelodau ychwanegol yr Alban sydd, fel Cymru, yn defnyddio cymysgedd ar hyn o bryd o’r cyntaf i’r felin a chynrychiolaeth gyfrannol.
O dan ei gynnig, byddai angen i 10% o bleidleiswyr lofnodi deiseb adalw ar draws y rhanbarth, gydag o leiaf 10% mewn tair etholaeth, er mwyn “atal ymgyrchoedd personol mewn un rhan o’r rhanbarth”.
Eglurodd Graham Simpson, sy’n un o saith Aelod o Senedd yr Alban ar restr ranbarthol Canolbarth yr Alban, y byddai pleidlais ‘Dylai/Na ddylai’ yn cael ei chynnal yn lle is-etholiad, a’r gofyn fyddai mwyafrif syml.
“Y cwestiwn fyddai, ‘A ddylai’r person hwn gadw ei swydd?’.
“Nid dyna fyddai’r cwestiwn ar y papur pleidleisio, yn amlwg, ond dyna fe mewn gwirionedd.”
Dywedodd wrth y pwyllgor mai’r person nesaf ar y rhestr fyddai’n disodli’r Aelod o Senedd yr Alban.
“Yr hyn dw i wedi bod yn awyddus i’w wneud yw rhoi’r cyfle i’r aelod sy’n destun deiseb adalw gyflwyno’i achos i’r etholwyr.”
‘Grym yn nwylo’r pleidiau’
Fe wnaeth y Ceidwadwr Sam Kurtz gwestiynu a yw ethol yr ymgeisydd nesaf ar restr y blaid yn deg, gan awgrymu y gallai fod yn well i’r etholwyr gael “dweud eu dweud yn llawn ac yn agored”.
Tynnodd Graham Simpson sylw at y ffaith, pe bai’n ymddiswyddo naw, y byddai’n cael ei olynu gan yr un nesaf ar y rhestr.
“Dyna sut mae hi,” meddai.
“Dw i ddim yn hoffi’r system honno, ond dyna sydd gennym ni.
“Ac rydych chi’n mynd yn llwyr tuag at y system honno yng Nghymru sy’n rhoi’r grym yn nwylo’r pleidiau, ac nid yr etholwyr.”
Gofynnodd Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru a ddylai sancsiynau fod yn destun pleidlais fwyafrifol o ddau draeon o Aelodau’r Senedd, yn hytrach na deiseb adalw.
“Na, dw i ddim yn credu y byddai hynny’n deg,” meddai.
“Nid lleiaf am fod gennym ni system adalw ar gyfer aelodau seneddol, dw i’n credu y dylai fod system gyfatebol ar gyfer Aelodau’r Senedd.
“Mae perygl o hyd y daw’r pethau hyn yn boliticaidd.”
‘Tir peryglus’
Ym mis Mai, cafodd Michael Matheson, cyn-Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, ei ddiarddel o senedd Holyrood am 27 diwrnod tros fil am £11,000 ar gyfer costau crwydrol ar iPad.
“Pe bai yna system adalw wedi bod yn ei lle, yna gallai’r aelod hwnnw fod wedi bod yn destun y system honno… byddai’n dod yn weithredol pe bai aelod yn cael gwaharddiad o ddeng niwrnod neu fwy,” meddai Graham Simpson.
Ar fater a ddylai fod yna ddeiseb adalw pe bai gwleidydd yn symud i blaid arall neu’n dod yn annibynnol, dywedodd yr Aelod o Senedd yr Alban wrth y Senedd ei fod yn “credu eich bod yn mynd i dir peryglus”.
Pe bai Sam Kurtz yn penderfynu ymuno â Phlaid Cymru, er enghraifft, ac yn colli pleidlais adalw wedyn, yna o dan gynnig yr Alban, byddai’r person nesaf ar restr y Ceidwadwyr yn ei olynu, meddai.
Dywedodd y byddai’r sedd yn aros yn wag pe bai Aelod o Senedd yr Alban yn cael eu hethol yn aelod Annibynnol.
Clywodd y Pwyllgor Safonau hefyd gan Daniel Greenberg, Comisiynydd Safonau San Steffan, ond cafodd y cyhoedd a’r wasg eu gwahardd o’r cyfarfod.