Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith er mwyn monitro eu strategaeth i fynd i’r afael â thlodi plant.

Yn sgil y Fframwaith Monitro Strategaeth Tlodi Plant, bydd llwyddiant y Strategaeth Tlodi Plant yn cael ei fesur a bydd adrodd arno’n digwydd unwaith bob tair blynedd.

Mae tua 30% o blant Cymru’n byw mewn tlodi, a 26% yn rhan o aelwydydd lle mae oedolion mewn gwaith yn byw mewn tlodi.

Eglura Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, y bydd y fframwaith yn cael ei ddefnyddio i adrodd ar ddata cadarn fydd yn rhoi darlun o effaith a thrywydd canlyniadau i blant a phobol ifanc.

“Credaf y bydd fframwaith sy’n seiliedig ar ystod o fesurau yn ein cefnogi i adlewyrchu’n fanylach effaith ein dull o ymdrin â’r set gymhleth hon o broblemau,” meddai.

Cafodd y Strategaeth Tlodi Plant newydd ei chyhoeddi ddechrau’r flwyddyn, a dywedodd yr elusen Achub y Plant bryd hynny nad oes “fawr o obaith” iddi heb gynllun cyflawni.

Nod Strategaeth Tlodi Plant newydd Llywodraeth Cymru yw mynd i’r afael ag effeithiau niweidiol byw mewn tlodi, a gwella cyfleoedd i blant sy’n byw mewn tlodi.

Gwaith monitro

Mae’r Fframwaith Monitro yn un o dri pheth fydd yn cael eu mesur i fesur cynnydd:

  • Fframwaith Monitro i adrodd ar ddata lefel cenedlaethol i asesu effaith ymdrechion ar draws y llywodraeth i fynd i’r afael â thlodi plant;
  • adroddiad cynnydd polisi fydd yn adrodd ar dystiolaeth o gynnydd ar draws y llywodraeth ar gyflawni yn erbyn amcanion, blaenoriaethau ac ymrwymiadau’r Strategaeth Tlodi Plant;
  • adroddiad o dystiolaeth gan blant, pobol ifanc a theuluoedd sydd â phrofiad o fyw mewn tlodi.

Cafodd y Fframwaith Monitro ei ddatblygu gyda’r Athro Rod Hick o Brifysgol Caerdydd, ac fel yr eglura Jane Hutt, mae Cerrig Milltir Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhan bwysig o fesur cynnydd y gwaith.

“Yn ogystal â’r Fframwaith Monitro, byddwn yn parhau i adrodd yn flynyddol ar ein cynnydd o ran cyflawni’r ymrwymiadau a bennwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu a byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad Llesiant Cymru bob blwyddyn,” meddai.

“Mae adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys asesiad o’n cynnydd tuag at ein Cerrig Milltir Cenedlaethol.

“Bydd y Fframwaith Monitro Strategaeth Tlodi Plant yn cael ei ddiweddaru bob tair blynedd ac yn cael ei ddefnyddio i asesu effaith ymdrechion ar draws y llywodraeth i fynd i’r afael â thlodi plant, gan adlewyrchu effaith ein dull gweithredu eang o ran cefnogi plant a lliniaru’r effeithiau y mae tlodi plant yn ei gael ar eu bywydau.”

Y Strategaeth Tlodi Plant

Mae mwy na 3,000 o blant, pobol ifanc, teuluoedd a sefydliadau wedi helpu i greu’r Strategaeth Tlodi Plant, ac mae ei phum amcan hirdymor yn cynnwys:

  • lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd;
  • creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobol ifanc a’u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial;
  • cefnogi llesiant plant a’u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi;
  • sicrhau bod plant, pobol ifanc a’u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobol a’r gwasanaethau sy’n gweithio efo nhw ac yn eu cefnogi, a herio’r stigma sy’n gysylltiedig â thlodi;
  • sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.