Roedd Alex Salmond, cyn-Brif Weinidog yr Alban fu farw’n 69 oed dros y penwythnos, yn “ddylanwadol iawn” yn nyddiau cynnar YesCymru, yn ôl cyn-gadeirydd y mudiad, fu’n siarad â golwg360.

Bu Alex Salmond, oedd yn arweinydd ar yr SNP rhwng 1990 a 2000 ac eto rhwng 2004 a 2014, farw yn sgil trawiad tebygol ar y galon yn ystod taith i Ogledd Macedonia ddydd Sadwrn (Hydref 12).

Gadawodd Alex Salmond yr SNP yn 2018, gan ddod yn arweinydd ar blaid Alba yn 2021.

Roedd yn Brif Weinidog yr Alban yn ystod y refferendwm annibyniaeth aflwyddiannus yn 2014, a rhoddodd gorau i’r rôl pan fethodd y refferendwm.

Er bod y wlad wedi pleidleisio yn erbyn annibyniaeth o 55% i 45%, roedd y refferendwm yn gatalydd i sefydlu YesCymru, yn ôl Siôn Jobbins, oedd ymysg sylfaenwyr y mudiad ac yna’n gadeirydd.

“Roedd [Alex Salmond] yn ddylanwadol iawn, dim mewn ffordd uniongyrchol – wnaethon ni fyth gwrdd ag e,” meddai Siôn Jobbins wrth golwg360.

“Weithiau, mae unigolion yn gallu newid hanes a doedd yna ddim byd o gwbl yn ddisgwyliedig y byddai’r Alban yn cael refferendwm ar annibyniaeth yn 2014.

“Roedd pawb yng Nghymru mewn dipyn o sioc.

“Mae’n amlwg bod personoliaeth Salmond yn ddigon cryf i wthio hynny ymlaen, a phetai e ddim wedi bod yn arweinydd yr SNP, yn gyntaf dw i ddim yn credu y bydden nhw wedi bod y blaid fwyaf yn yr Alban, ac yn sicr fydden nhw ddim wedi cael refferendwm yn 2014.

“Felly’n sicr, fe wnaeth hynna weddnewid, ar un ystyr, wleidyddiaeth Cymru achos y refferendwm yn yr Alban oedd y sbardun i sefydlu YesCymru, er bod yna ryw sôn wedi bod am rywbeth tebyg cyn hynny.”

‘Dewrder a hyder’

Dan ei arweiniad, enillodd yr SNP fwyafrif llwyr yn Senedd yr Alban yn Holyrood yn 2011, wnaeth ganiatáu i’r blaid allu cynnal refferendwm annibyniaeth.

Eglura Siôn Jobbins fod llwyddiant yr ymgyrch dros annibyniaeth yn yr Alban yn 2014 wedi “rhoi ryw fath o dempled” i’r ymgyrch yng Nghymru.

Roedd y pwyslais yn bennaf ar bolisïau economaidd a gwella bywydau, yn hytrach nag ar wleidyddiaeth genedlaetholgar fwy traddodiadol fyddai’n pwysleisio hunaniaeth neu iaith.

“Roedd angen i ni greu mudiad dros annibyniaeth; pe bai’r Alban wedi pleidleisio dros annibyniaeth, byddai hi wedi bod yn dywyll iawn ar Gymru, achos doedd neb yn barod,” meddai Siôn Jobbins wedyn, gan ychwanegu bod dewrder Alex Salmond wedi bod yn esiampl.

“Mae’n rhaid bod rhywun yn ddewr ac yn hyderus yn eu hunain, sy’n gallu bod yn beth anodd wrth gwrs, ac roedd e’n ddewr i wneud hynny, ac fe wnaeth e bron â llwyddo.

“Roeddwn i yn yr Alban yn 2013 – aeth criw o Gymry i rali dros annibyniaeth yng Nghaeredin – ac roeddwn i’n meddwl bod dim gobaith gyda nhw.

“Dw i’n cofio mynd i gyngerdd yn y nos – roedd e’n grêt ond ychydig bach yn ddi-drefn, neb yn siŵr beth oedd yn digwydd, pethau ddim yn dechrau ar amser – ac roeddwn i’n meddwl eu bod nhw’n mynd i gael eu malu.

“Ond o fewn blwyddyn, roedd y peth wedi troi; roedden nhw wedi llwyddo i greu mudiad llawr gwlad.”

‘Gwneuthuriad Salmond’

Roedd y cyn-Brif Weinidog yn deall bod angen i’r mudiad dros annibyniaeth fod yn ymgyrch llawr gwlad, ac nid yn rhywbeth pleidiol, meddai Siôn Jobbins, gan ychwanegu bod hynny’n bwysig wrth sefydlu YesCymru.

“Roedd Salmond wedi deall bod angen newid meddyliau pobol, ac i newid meddyliau pobol mae angen eu herio nhw,” meddai.

Cefndir mewn economeg oedd gan Alex Salmond cyn mynd i fyd gwleidyddiaeth, a bu’n gweithio fel economegydd olew ac economegydd banc i Fanc Brenhinol yr Alban am gyfnod.

“Roedd e wedi gweithio yn y diwydiant olew, roedd e’n deall busnes.

“Roedd e’n deall pobol oedd eisiau newid eithaf sylfaenol, ond hefyd yn deall ceidwadaeth a sut i apelio at bobol sy’n gallu bod, ar un ystyr, yn eithaf ceidwadol, ac yn parchu hynny.

“Roedd ei wneuthuriad e’n gallu pontio pobol, a gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus bod annibyniaeth yn golygu newid mawr, ond ddim yn golygu sathru ar bethau roedd pobol eraill yn eu gweld yn bwysig.”

‘Cyfaill i Gymru’

Mewn teyrnged ar X (Twitter gynt), dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ei fod wedi cynnig “cefnogaeth werthfawr” iddi pan ddaeth yn Aelod Seneddol.

“Roedd Alex Salmond yn ffigwr gwleidyddol heb ei debyg wnaeth wneud annibyniaeth yn opsiwn ymarferol i’r Alban,” meddai.

“Roedd yn gyfaill i Gymru a chynigiodd gefnogaeth werthfawr pan gefais fy ethol yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf yn 2015.

“Mae fy meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau yn y cyfnod anodd hwn.”

‘Albanwr balch’

Dywedodd Paul Davies, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd oedd yn arweinydd ar y Ceidwadwyr Cymreig rhwng 2018 a 2021, fod Alex Salmond yn wleidydd “clyfar a charismataidd”.

“Er na wnes i fyth gytuno â’i genedlaetholdeb, roedd Alex Salmond yn wleidydd clyfar a charismataidd oedd â thalent a strategaeth amlwg i fynd â’r SNP i’r Llywodraeth.

“Mae fy meddyliau a’m gweddïau gyda’i deulu ar yr amser anodd hwn.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn “newyddion trist”.

Roedd Alex Salmond yn “Albanwr eithriadol o falch a gwleidydd talentog am dros 30 o flynyddoedd”, meddai Eluned Morgan.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau.”