Mae erlynwyr o blaid rhoi pardwn i bedwar o arweinwyr yng Nghatalwnia gafwyd yn euog o embeslo yn 2019.
Cafodd Oriol Junqueras, Raul Romeva, Dolors Bassa a Jordi Turull eu gwahardd rhag bod mewn swydd gyhoeddus am eu rhan yn ymgyrch annibyniaeth 2017.
Roedden nhw wedi bod dan glo am fwy na thair blynedd pan gawson nhw eu rhyddhau o’r carchar yn gynnar yn 2021, ar ôl iddyn nhw gael pardwn gan Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen.
Ond dydy eu collfarn ddim wedi cael ei diddymu, sy’n golygu bod y gwaharddiad yn ei le o hyd.
Y drefn gyfreithiol
Mae’r cais am bardwn, gafodd ei gyflwyno fis Gorffennaf y llynedd, yn dilyn trefn arferol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n ceisio barn swyddfa’r erlynydd a’r llys sy’n rhoi dedfrydau.
Ond mae’r Goruchaf Lys wedi gwrthod gweithredu’r amnest yn achos arweinwyr y refferendwm, gan fod modd eithrio embeslo o’r gyfraith – dyna pam fod yr awdurdodau’n dal i geisio erlyn y cyn-arlywydd Carles Puigdemont.
Mewn llythyr yn amlinellu pam ei bod hi’n cefnogi pardwn, dywedodd Ángeles Sánchez Conde, y dirprwy erlynydd, fod y swyddfa o’r farn fod modd gweithredu’r amnest yn yr achos dan sylw gan fod y ffeithiau’n dod o dan gwmpas y gyfraith ar amnest.