Mae pwyllgor wedi clywed nad oes gan dribiwnlysoedd Cymru mo’r adnoddau angenrheidiol i sicrhau bod modd datrys achosion yn gyflym, yn effeithlon nac yn gyfiawn.

Aeth Syr Gary Hickinbottom, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru sy’n goruchwylio saith o dribiwnlysoedd datganoledig, gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth y Senedd ddoe (dydd Llun, Hydref 14).

Fe wnaeth y cadeirydd Mike Hedges o’r Blaid Lafur gwestiynu gorwariant cyllideb cyfun o fwy nag £1m dros y ddwy flwyddyn ariannol ddiwethaf.

“Un ffactor arwyddocaol yw chwyddiant cyffredinol, yn enwedig yn nhermau tâl a thaliadau pensiwn, ac nad yw chwyddiant wedi cael ei adlewyrchu yn y gyllideb,” meddai Syr Gary Hickinbottom wrth y pwyllgor.

Wrth gael ei wthio ar a oes gan dribiwnlysoedd yr adnoddau a’r gefnogaeth sy’n ofynnol i sicrhau bod achosion yn cael eu clywed yn gyflym, yn effeithlon ac yn gyfiawn, dywedodd mai’r “ateb go iawn, dw i’n meddwl, yw ’na”.

‘Anghyfartaledd’

Cododd Syr Gary Hickinbottom bryderon am anghyfartaledd rhwng cyllideb tribiwnlysoedd Cymru a gwariant gwirioneddol, gan ddweud bod rhaid i amcangyfrifon y dyfodol adlewyrchu gwariant tebygol yn fwy cywir.

Wrth roi tystiolaeth ar ei adroddiad blynyddol – ei adroddiad blynyddol cyntaf ers iddo gael ei benodi fis Mai 2023 – cododd Syr Gary Hickinbottom y perygl o wahaniaethau ’difrifol’ mewn cyflogau mewn tribiwnlysoedd datganoledig a’r rhai nad ydyn nhw wedi’u datganoli.

Rhybuddiodd y cyn-farnwr yn y Llys Apêl y gallai unrhyw anghyfartaledd o ran cyflogau, telerau ac amodau, hyfforddiant neu gyfleoedd arwain pobol tuag at dribiwnlysoedd nad ydyn nhw wedi’u datganoli.

“Mae pethau fel cyfraddau cyflogau’n bwysicach… nag oedden nhw dro yn ôl,” meddai.

“Dydy hynny ddim i ddweud nad yw deiliaid swyddi barnwrol yn cael eu gyrru gan wasanaeth cyhoeddus.”

Dywedodd Syr Gary Hickinbottom wrth y pwyllgor fod cyfraddau cyflogau tribiwnlysoedd datganoledig a’r rhai nad ydyn nhw wedi’u datganoli yn gyfartal hyd at 2023-24.

‘Diffyg’

“Y llynedd, roedd anghyfartaledd yn y tâl gafodd ei roi oherwydd doedd Llywodraeth Cymru ddim wedi dyfarnu’n unol ag argymhellion y corff sy’n adolygu cyflogau uwch, fel y gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Felly, roedd diffyg o 2% yng Nghymru o gymharu â’r llysoedd a thribiwnlysoedd sydd wedi’u cadw.

“Mae rhywun yn deall y pwysau ariannol ar Lywodraeth Cymru arweiniodd at yr anghyfartaledd hwnnw, ond dw i’n falch o ddweud bod yr anghyfartaledd hwnnw bellach wedi mynd.

“Mae hynny, dw i’n meddwl, yn bwysig iawn.

“Nid dim ond o ran yr arian, er bod hynny’n bwysig i rai pobol – ond mae hefyd yn arwydd o’r gwerth canfyddedig.”

Rhybuddiodd fod gwahaniaethau hanesyddol mewn tâl ar gyfer diwrnodau lle nad yw tribiwnlysoedd yn eistedd yn parhau, ac ym mhob achos fod “anghyfartaledd yn erbyn y tribiwnlysoedd datganoledig o blaid y tribiwnlysoedd sydd wedi’u cadw”.

‘Ymyl danheddog’

Gofynnodd Alun Davies o’r Blaid Lafur am gynigion ar gyfer diwygio strwythurol, sy’n cynnwys creu tribiwnlys haen gyntaf wedi’i rannu’n siambrau a thribiwnlys apeliadau i Gymru.

Dywedodd Syr Gary Hickinbottom fod tribiwnlysoedd Cymreig mewn lle anarferol ar “ymyl danheddog” datganoli, gyda’r system gyfiawnder wedi’i chadw gan San Steffan.

“Mae’n bwysig iawn fod y diwygiadau hyn yn mynd drwodd, dw i’n meddwl – i’r tribiwnlysoedd eu hunain ond yn enwedig, wrth gwrs, i ddefnyddwyr y tribiwnlysoedd.

“Rydyn ni i gyd yma i wasanaethu pobol Cymru.”

Wrth ddisgrifio’r cynlluniau fel rhai cytbwys a threfnus, dywedodd fod “cwmpas y tribiwnlysoedd sydd newydd gael eu ffurfio’n ehangu i gynnwys pethau fel apeliadau o ran derbyniadau a gwaharddiadau ysgol”.

Dywedodd Syr Gary Hickinbottom wrth aelodau’r pwyllgor y byddai diwygiadau’n “diogelu dyfodol” y system, gyda lle i ddod â meysydd datganoledig eraill megis cyfiawnder ieuenctid o dan yr ymbarél.