Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm dros ran helaeth o Gymru.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 6 o’r gloch heno (nos Fawrth, Hydref 15), ac yn para tan 12 o’r gloch brynhawn fory (dydd Mercher, Hydref 16).

Yr unig ddwy sir yng Nghymru heb rybudd yw Sir Benfro ac Ynys Môn.

Mae rhybudd i yrwyr a theithwyr am gyflwr y ffyrdd, ac fe all y tywydd achosi llifogydd mewn rhai llefydd, ynghyd â thoriadau i gyflenwadau trydan rhai ardaloedd.

Gallai hyd at 20mm o law gwympo, medd y rhybudd, sy’n dweud y gallai rhannau o’r de weld hyd at 80mm o law yn cwympo.

Yn y de, gallai rhai ardaloedd wynebu mellt a tharanau hefyd.