Wrth i gorff Alex Salmond, cyn-Brif Weinidog yr Alban, ddychwelyd i’w famwlad o Ogledd Macedonia heddiw (dydd Gwener, Hydref 18), daeth cadarnhad fod Prif Weithredwr yr SNP, ei hen blaid, yn rhoi’r gorau i’w swydd.

Fe fu Murray Foote yn y swydd am 14 mis yn unig, ac wrth gyhoeddi ei ymadawiad, dywedodd nad oes modd iddo “wneud yr ymrwymiad personol angenrheidiol” er mwyn parhau yn y swydd.

Cafodd yr SNP ganlyniadau siomedig yn etholiad cyffredinol San Steffan ddechrau’r haf, wrth golli 39 o seddi fel mai dim ond naw sydd ganddyn nhw bellach.

Mae John Swinney, arweinydd yr SNP, wedi talu teyrnged i “gyfraniad sylweddol” Murray Foote i’r swydd.

Fe wnaeth Foote olynu Peter Murrell, gŵr y cyn-Brif Weinidog Nicola Sturgeon, yn y swydd.

O dan ei arweiniad, daeth cytundeb yr SNP â’r Blaid Werdd i ben yn Holyrood, ac fe ymddiswyddodd y cyn-Brif Weinidog Humza Yousaf.

Mae amseru’r cyhoeddiad gan yr SNP, wrth i sylw’r Alban droi at ddychwelyd corff Alex Salmond i’r wlad, wedi cael ei feirniadu gan rai ar y cyfryngau cymdeithasol.