Mae Menter Môn yn gwahodd busnesau i ymgeisio am grantiau fydd yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ar yr ynys.
Bydd modd derbyn grant gwerth hyd at £3,000.
Mae’r fenter yn cynnig y grant fel rhan o’r Rhaglen ARFOR, ar y cyd â chynghorau sir Caerfyrddin, Ceredigion a Gwynedd, ac mae Cyngor Sir Ynys Môn hefyd yn rhan o’r cynllun sy’n ceisio cynnal y Gymraeg yn ddyddiol drwy ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi.
Ym mis Hydref 2022, penderfynodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y byddai £11m yn cael ei roi i’r pedair sir fynd ati i gydweithio ac i greu ymyraethau ar gyfer cyfnod 2022-2023 i 2024-2025.
Mae’r gronfa ar agor i fusnesau sy’n hyfyw yn ariannol, ac sydd eisoes yn masnachu neu’n bwriadu masnachu, ac mae’r grant yn deillio o Gronfa Cymunedau Mentrus Ynys Môn.
Y Gymraeg yn rhan “annatod” o lwyddiant busnesau lleol
Yn ôl Elen Hughes, Cyfarwyddwr Prosiectau Menter Môn, nod y grant yw helpu busnesau lleol yr ardal i Gymreigio o fewn y byd busnes.
Gall yr arian fod o fudd i fusnesau i dalu am wersi Cymraeg i’w staff, yn ogystal â helpu busnesau gyda chostau cyfieithu er mwyn ailfrandio drwy gyfrwng y Gymraeg.
A hwythau’n gwireddu prosiectau ar yr ynys ers bron i 30 o flynyddoedd, dywed Elen Hughes mai blaenoriaeth Menter Môn yw sicrhau bod cymunedau lleol yr ardal yn ffynnu drwy’r Gymraeg a’u bod nhw, fel cwmni, yn barod i’w helpu.
Pwysleisia ei bod hi’n bwysig gallu darparu grantiau o’r fath i gynnal y Gymraeg mewn ardaloedd megis Ynys Môn, lle mae canran y siaradwyr Cymraeg yn gostwng.
“Ein bwriad ni yw sicrhau bod yna gwmnïau cryf a llewyrchus ar Ynys Môn ac wedyn mae’r Gymraeg yn rhan annatod o hynny,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni’n credu fel cwmni fod y Gymraeg yn rhan o gymunedau’r Ynys, felly un ffordd o sicrhau bod y Gymraeg yn cael statws yn y byd busnes yw i gynnig y math yma o ymyraethau.”
I’r ceisiadau fydd yn deilwng o’r grantiau, bydd disgwyl i’r ymgeiswyr gael eu monitro am hyd at ddwy flynedd, er mwyn sicrhau bod grantiau’r cynllun ARFOR yn cyflawni eu pwrpas a bod yr arian yn cael ei wario ar yr hyn gafodd ei gymeradwyo o’r cychwyn.
Llwyddiant blaenorol
Yn 2019, yn sgil Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, cafodd £2m ei roi i gynghorau sir Caerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn treialu dulliau arloesol.
Y bwriad ar y pryd oedd cefnogi’r economi yng nghadarnleoedd yr iaith Gymraeg hyd at fis Mawrth 2021.
Derbyniodd 154 o fusnesau gymorth o ganlyniad i wedd gyntaf rhaglen ARFOR, gan greu 238 o swyddi cyfwerth llawn amser ac 89 swydd rhan amser.
Roedd y cynllun hefyd wedi gwarchod hyd at 226 o swyddi.
Roedd ymateb “da” i gytundebau cyllidebol blaenorol, gydag amrywiaeth o gwmnïau gwahanol wedi ymgeisio, yn ôl Elen Hughes.
“Roedd yna gwmnïau fyswn i byth wedi meddwl fysen nhw’n ymgeisio wedi gwneud.
“Cwmnïau adeiladu, er enghraifft, a chwmnïau oedd eisiau ailysgrifennu ysgrifen ar ochr y fan fel bod y Gymraeg yn fwy gweledol.
“Roedd yna gwmnïau yn y byd celfyddydau hefyd wedi ymgeisio, er mwyn cael help i gyfieithu deunyddiau.
“Mae’r amrywiaeth yn eang ofnadwy, ac mae’n grêt gweld bod y cwmnïau yma yn dal i ddefnyddio’r deunyddiau maen nhw wedi’u cael o’r grant cychwynnol.”
Gyda’r dyddiad cau yn prysur agosáu ar Hydref 31, mae Menter Môn yn annog busnesau’r sir i ymgymryd â’r grantiau er mwyn cefnogi twf economaidd yr ardal ac i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a dwyieithrwydd o fewn eu busnes.
“Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan fusnesau bach, canolig a hyd yn oed busnesau mawr os ydyn nhw eisiau; does ganddon ni ddim cyfyngiadau penodol.
“Mae’r cynllun yn agored ac rydyn ni’n reit hyblyg.”