Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr actores, digrifwraig a chantores Gillian Elisa sydd wedi bod yn rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Mae hi’n adnabyddus am chwarae’r cymeriad Sabrina Harries yn y gyfres sebon Pobol y Cwm, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed y mis hwn. Mae Gillian hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gyfresi teledu eraill. Cafodd ei magu yn Llanbed ac yn dal i fyw yno…


Fy atgof cyntaf o fwyd ydy Farley’s Rusks. Roeddwn i’n dwli ar Farley’s Rusks â llaeth twym ar ei ben e! Roedd e’n neud i fi deimlo’n gynnes tu fewn.  Dw i’n meddwl bod nhw’n dal yn y siopau. Dw i’n cofio prynu rhai ddim sbel yn ôl achos maen nhw’n grêt os ti angen rhywbeth i setlo’r stumog. Yn hwyrach ymlaen, roeddwn i’n hoff  iawn o bara te ac os oeddwn i’n cael annwyd neu wddw tost, bara te o’dd y boi – ‘da tamaid bach o siwgr a menyn ynddo fe, mewn basn pwdin hen ffasiwn, gwyn, ’da llwy.

Pan oeddwn i’n ferch fach, fy mam oedd yn coginio. Ciniawau dydd Sul gyda chig eidion, tato rhost, cabetsh, moron, pys, a Yorkshire pudding a grefi sbeshal ac, wrth gwrs, cawl. Tarten mwyar duon, neu darten gwsberis, neu darten afal ’da chwstard, ar ôl y cinio. Ond fel arfer, roedden ni’n cael pwdin reis ’da’r croen yn dechre troi’n frown ar y top! Roedd cerdded nôl i’r tŷ, ar ôl bod yn yr Ysgol Sul a thrial cofio’r adnodau, a mynd mewn drwy ddrws ffrynt y tŷ, yn arogli cinio dydd Sul mam, wastad yn gwneud i fi i deimlo’n hapus a saff.

Mae Gillian Elisa yn hoff iawn o gawl – mae’n ei hatgoffa o’i phlentyndod

Gollon ni mam pan oeddwn i’n 15 oed ac fe aeth y prydau bwyd yn rhywbeth gwahanol. Roeddwn i’n lwcus iawn achos roedd ein cymydog ni ar y pryd, sef Elizabeth Warmington, wedi penderfynu gwneud cinio cynnes i ni bob dydd tra roedden ni’n mynd drwy’r galar sydyn yma. Roedd hi’n werth y byd a wastad yn gwneud i ni chwerthin – yn dod i fewn drwy’r drws ffrynt (achos roedd ein drws ffrynt ni dal ar agor heb ei gloi, drwy’r dydd) ac yn dweud bob tro: “Meals on wheels!” Roedd hi wedi mynnu cadw’r strwythur i fynd, y peth gore all ddigwydd yn y sefyllfa yma. Felly mae gen i lot i ddiolch i Elizabeth Warmington.

Sbwnj Fictoria Gillian Elisa

Fe ddysges i hefyd sut i wneud Sbwnj Fictoria gyda Mrs Hannah Lloyd, cymydog arall, yn y cyfnod yma hefyd. Pwyswch 4 neu 6 wy a beth bynnag yw’r pwysau, yna, gwnewch yn siŵr fod y cynhwysion i gyd yn pwyso’r un peth a’r 4 neu 6 wy. Cymysgu a’i rhoi mewn dau dun 7″ ac yna ei rhoi yn y ffwrn ar 180°C am hanner awr i 40 munud. Roedd fy nhad yn joio’r sbwnj. Roedd e wedi sylwi fy mod i’n mwynhau coginio ac, yn ôl Dad, roeddwn i’n gwneud pwdin reis yn sbeshal achos roeddwn i’n rhoi ychydig o nytmeg ar y top gyda’r menyn, cyn ei roi yn y ffwrn. Roeddwn i’n gwneud pwdin reis yn gwmws fel ei Anti Joan. Wnes i erioed cwrdd â hi – roedd hi’n dod o gyfnod arall!

Cacen siocled a wnaeth Gillian ar ei phen-blwydd ar ôl y cyfnod Covid

“Fish a chips” – neu “bysgod a sglodion”o Lloyds Llanbed ydy’r bwyd dw i’n troi ato am gysur, gyda bara gwyn a menyn Sir Gâr arno fe… ond fi’n dal i weud “fish a chips” er dw i’n cywiro fy hunan bob tro! Dw i wastad yn dangos fy methiannau i helpu’r dysgwyr Cymraeg, ac yn dweud wrthyn nhw i beidio bod ofn dweud rhywbeth yn Saesneg, os nag y’n nhw’n siŵr o’r frawddeg, ac i gywiro eu hunain pan yn siarad hefyd. Mae hyn yn bwysig er mwyn dangos iddyn nhw fod hyn yn iawn i wneud.

Fy mhryd bwyd delfrydol fyddai yn Y Seler neu yr Harbwrfeistr yn Aberaeron, neu Llain y Castell/Castle Green yn Llanbed. Mae wastad bwyd ffein yna hefyd, ac yn gyfleus achos ’mond lan yr hewl mae Llain y Castell. Hefyd yn Llanbed, mae caffi Mark Lane lle mae’r bwyd wastad yn boeth iawn yn cyrraedd y ford, neu Artisan. Mae Yr Hedyn Mwstard mor handi, lawr ddim yn bell o gefn fy ngardd i a dw i’n gallu “slipo” draw yna o’r cefn – munud o wâc yw e, hynny yw, os dw i angen cwrdd â rhywun yn gyflym neu os mae hi’n braf… i ni’n gallu eistedd tu fas, ac maen nhw wedi adeiladu Eglwys wrth ochr y bwyty hefyd sy’n lle braf a chroesawgar bob tro. Mae Deli Kelly a Deli Neuadd y Dre hefyd sy’n handi iawn cyn dala bws. Mae’r dewis yn wych, ac mae’r croeso’n gynnes ym mhob un ohonyn nhw, bob tro – ac maen nhw i gyd yn dwli ar fy nghi Cariad.

Cast Under Milk Wood yn y National yn Llundain yn mwynhau pice ar y maen o gwmni Hathren, Llanbed

Dw i wastad yn joio dod â blas Llanbed mewn i ngwaith i. Roeddwn i yn y National yn Llundain yn perfformio Under Milk Wood yn 2021 ac fe wnes i archebu pice ar y maen oddi wrth Meinir o gwmni Hathren. Blasus iawn. A dw i wrth fy modd yn cael fy (fix) o hufen iâ o Conti’s yn Llanbed bron bob dydd.

Roedd bwyty Groegaidd yn Heol Siarl yng Nghaerdydd lle’r oedd ganddyn nhw draddodiad o daflu platiau ar y llawr pan oeddech chi’n dawnsio. Roeddwn i wrth fy modd yn bwyta hummuspitta bread ac olifau du a gwyrdd, cyn y prif gwrs. Dw i’n dal i fwyta hwn fel y prif gwrs ac mae’n f’atgoffa o ddyddiau cynnar yng nghlwb nos Pappagio’s lle’r oeddwn yn dawnsio nes i fi gwympo! Gyferbyn a Pappagio’s roedd bwyty o’r enw El Greco’s. Roedd y lle ‘ma ar agor nes Dydd y Farn! Dyddiau da a boncyrs ond lot o hwyl.

Un o ffefrynnau Gillian – samwn a llysiau o’r ardd

Dw i’n joio coginio ac un o fy ffefrynnau i wneud pan mae pobl yn dod draw yw samwn, tatws newydd o fy ngardd a bach o bys a cinabêns o’r ardd ’fyd, a fy saws hufen ‘da phersli ffres. Syml, blasus ag effeithiol. Dw i’n joio cawl hefyd, mae’n f’atgoffa o fy mhlentyndod. Er cawl llysiau dw i’n ei gael erbyn hyn achos dw i wedi mynd yn llysieuwr ers 10 mlynedd.

Y prydau dw i’n troi atyn nhw dro ar ôl tro yw spaghetti bolognese neu salad ’da tato newydd a mecryll neu unrhyw bysgodyn fel draenog y môr. Ond fi’n gallu gwneud cyri eitha’ blasus a dw i wedi derbyn ryseitiau gan fy ffrindiau Llinos Wyn Jones ac Ifan Huw Dafydd (Dic Deryn yn Pobol y Cwm) a dw i’n rhoi fy “personal touch” ar hwn.

Dyma’r rysáit ar gyfer Saag aloo…

Saag aloo

Amser paratoi: 10 i 30 munud

Gweini 4

Cynhwysion

3 llwy fwrdd o olew llysiau

2 llwy de o hadau cwmin

5 ewin garlleg, wedi’u sleisio

2 tsili gwyrdd ‘bird’s eye’ wedi’u torri’n fân

115g/4 owns o winwn, wedi’i dorri’n fân

1 llwy fwrdd o goriander wedi’i falu

1 llwy de o dyrmerig wedi’i falu

400g/14 owns o sbigoglys wedi’i rewi a’i dorri

350g/12 owns o datws, wedi’u plicio a’u torri’n giwbiau mawr a’u berwi

1cm/hanner modfedd o sinsir ffres, wedi’i sleisio

Halen

Dull

Rhowch yr olew mewn sosban fawr neu wok dros wres canolig. Ychwanegwch yr hadau cwmin ac, wrth iddyn nhw ffrio, ychwanegwch y garlleg a’r tsilis. Ffriwch am funud, ac wedyn ychwanegwch y winwn a pharhau i ffrio am 7-8 munud, gan ei droi yn dda.

Ychwanegwch y coriander a’r tyrmerig a’i droi’n dda. Ychwanegwch y sbigoglys, rhowch gaead ar y sosban a gadewch i goginio am 5 munud ar wres canolig. Rhowch ychydig o halen, ac wrth i’r sbigoglys ddechrau rhyddhau dŵr, trowch y gwres i lawr yn isel a’i goginio am 5 munud arall. Ychwanegwch y ciwbiau o datws a’r sinsir a’i goginio am 5 munud. Gweinwch gyda chapatis neu reis.

Mae Gillian Elisa wedi bod yn rhannu rhai o’i hatgofion o ymuno â chast Pobol y Cwm nôl yn 1974 yn Llun y Dydd…