Cwmni sanau yw Corgi, gafodd ei sefydlu yn 1892.

Dechreuodd Rhys Jones greu sanau gwlân ar gyfer glowyr lleol yn Sir Gaerfyrddin, ond heddiw, mae Corgi wedi mabwysiadu’r teitl cynhyrchwyr nid dim ond sanau, ond gweuwaith a chyfwisgoedd sydd wedi’u creu â llaw gan ddefnyddio edafedd naturiol, megis cotwm, gwlân a kashmir.

Ond yn bwysicaf oll, mae popeth wedi’i greu yma yng Nghymru.

A hithau’n Fis Gwlân Cenedlaethol, fe fu golwg360 yn holi Lisa Wood a Chris Jones, disgynyddion y sylfaenydd Rhys Jones, am eu busnes teuluol sydd yn pwysleisio pwysigrwydd crefftwaith a threftadaeth.


Pam sanau?

Sylweddolodd fy ngorhendaid fod glowyr yn yr 1800au hwyr heb sanau o ansawdd da i warchod eu coesau pan oedden nhw lawr yn y pyllau glo, felly fe brynodd e beiriannau sanau Griswold sy’n cael eu gweithredu â llaw, a dechreuodd e greu sanau. Hyd yn oed heddiw, rydym o hyd yn defnyddio’r un peiriannau i gynhyrchu ein sanau cebl kashmir mwyaf moethus.

Sut ydych chi wedi adlewyrchu Cymru yn eich strategaeth frandio?

Mae pob cynnyrch yn dweud “wedi’u creu yng Nghymru”, ac mae lluniau o gefn gwlad Cymru yn ymddangos dipyn ar ein cyfryngau cymdeithasol. Mae corgi yn gi Cymreig hefyd, wrth gwrs!

Pa rwystrau potensial ydych yn gallu rhagweld wrth alinio’r brand gyda Chymru yn benodol, a sut ydych chi’n mynd i’r afael â nhw wrth iddyn nhw godi?

Dim. Rydym yn falch o’n cynnyrch a’n treftadaeth Gymreig, ac yn eu gweld fel cryfder sydd gan ein cwmni.

Yn yr un modd, beth yw manteision marchnata eich brand ‘wedi’u creu yng Nghymru’?

Mae hi’n arwydd o gynnyrch gyda’r ansawdd gorau, ond rydym hefyd yn gallu dod â sylw i’r hanes a’r dreftadaeth tu ôl i’r brand.

Sut ydych chi’n bwriadu cynnal a chydbwyso’r lleol gydag apêl fyd-eang eich brand?

Mae’r ffaith ein bod yn dod o gwm bach Cymreig yn ein helpu ni i sefyll ma’s a bod o ddiddordeb i lefydd ar draws y byd. Nid dim ond prynu’r cynnyrch maen nhw, ond maen nhw’n prynu mewn i’r hanes hefyd.

Ble ydych chi’n gweld eich brand ymhen pum mlynedd? Beth yw eich amcanion a’ch gweledigaeth?

Rydym yn gobeithio ehangu yn y gwledydd rydym eisoes yn gwerthu iddyn nhw, ond hefyd i wledydd newydd ar draws y byd. Ni yw’r unig wneuthurwr sanau premiwm sydd o hyd yn gweithgynhyrchu yma yn y Deyrnas Unedig, felly rydym yn bwriadu codi ymwybyddiaeth am hynny a thyfu adnabyddiaeth o’n brand yn fyd-eang.

Allwch chi esbonio ychydig am eich deunyddiau? Ydy’r rhain yn dod o Gymru? Oes unrhyw ran o’r broses gynhyrchu yn digwydd yng Nghymru?

Mae pob un o’n cynnyrch “wedi’u creu yng Nghymru”. Dydyn ni ddim yn allanoli unrhyw beth.

Rydym yn defnyddio edau moethus, megis kashmir, ond rydym hefyd yn defnyddio gwlân Cymreig pan fo’n bosib.