I bobol gynefin â thrychinebau, mae ambell drychineb yn rhoi gwaeth ysgytwad na’i gilydd i ni. Y dydd Llun aeth heibio (Hydref 14), nodwyd pen-blwydd y danchwa ym Mhwll yr ‘Universal’ yn Senghennydd ger Caerffili yn 1913, pan gafodd 439 o ddynion a bechgyn eu lladd. Fory (dydd Llun, Hydref 21), bydd 58 mlynedd wedi mynd heibio ers llithro rhan o’r domen lo yn Aberfan ger Merthyr Tydfil, a dinistrio tai a chladdu rhan o Ysgol Pant-glas. Cafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd yn y trychineb hwnnw.
Wedi’r naill drychineb a’r llall, trawyd Cymru â mudandod trwm, fel y trawyd beirdd Cymru gan farw Llywelyn ar Ragfyr 11, 1282. Yn ein hen lenyddiaeth (ar wahân i’r Beibl, efallai) mae’r mynegiant gorau o’r mudandod llethol hwnnw a ddirwasgodd ein cenedl fis Hydref 1913 a 1966:
Stafell Gynddylan ys tywyll – heno
Heb dân, heb wely;
Wylaf wers, tawaf wedy.
Stafell Gynddylan ys tywyll – heno
Heb dân, heb gannwyll;
Namyn Duw pwy a’m dyry pwyll.
Stafell Gynddylan ys tywyll – heno
Heb dân, heb oleuad;
Elid am-daw amdanad.
Yn gymysg â’r ing a’r gwewyr ddaw yn sgil pob trychineb mae’r syndod am fawredd haelionus y galon ddynol. I Senghennydd ac Aberfan, ac i bob man lle bu trychinebau tebyg yn ddiweddarach, llifodd rhoddion o bob cwr o’r byd, a chan bob gradd o bobol i geisio cynnal a chefnogi’r galarus.
Ond, saif angen dyfnaf y bobol rheini sydd yn weddill wedi’r trychineb, yn gwbl tu hwnt i allu arian i’w sicrhau. Y gymwynas fwyaf allwn â phobol heddiw – sydd megis pobol Senghennydd 1913 ac Aberfan 1966 – wedi’u hamgylchynu â diflastod a thorcalon, yw troi ein cydymdeimlad yn eiriolaeth.
Awgrymog iawn yw’r llinell: Elid am-daw amdanad.
Os deallais y llinell yn iawn, gellid ei arall eirio fel hyn: ‘Deled mawr ddistawrwydd i’th amgylchynu.’
Ie, mawr ddistawrwydd gweddi, a distawrwydd sylweddol sicrwydd ffydd.
Elid am-daw amdanad.
Boed i ni, heddiw, droi ein cydymdeimlad â phobol Gaza, yn eiriolaeth; troi ein cydymdeimlad â’r bobol sydd yn dioddef yn sgil y rhyfela yn Wcráin, yn eiriolaeth; troi ein cydymdeimlad â phobol Haiti, Burkina Faso, Gogledd Swdan, Syria, Yemen, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Affganistan, Ethiopia, Somalia, yn eiriolaeth, er mwyn iddyn nhw ymdeimlo â choflaid cariad tragwyddol ein Duw. Estynnwn i Dduw’r hawl i ddefnyddio ein gweddïau gwael yn gyfryngau da i fynegi a gweithredu ei dosturi diwaelod yntau.
Elid am-daw amdanad.
Dylid cofio hefyd, nad pob trychineb sydd yn cael sylw’r cyfryngau. Mi gredaf fod y bardd Huw Jones yn codi cwestiwn pwysig, a’r cwestiwn hwnnw fydd yn cau pen y mwdwl ar y golofn hon heddiw:
A yw cannoedd o gyrff
Yn ein brawychu’n fwy nag un?
Oes rhaid i’r ddaear symud
Cyn ysgwyd ein bywydau ni?
(Barddas. Rhif 205 – Mai, 1994)
Elid am-daw amdanad.