Mae’r Uchel Lys wedi datgan bod penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i agor ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe yn “anghyfreithlon”, am iddyn nhw fethu ag asesu effaith hyn ar addysg Gymraeg.
Roedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi gweithredu’n anghyfreithlon pan benderfynodd sefydlu ysgol enfawr (“super-school”) cyfrwng Saesneg i ddisodli tair ysgol gynradd fach yn ardal Pontardawe, meddai’r llys.
Penderfynodd y llys na all yr ysgol newydd ym Mharc Ynysderw fynd yn ei blaen ar hyn o bryd gan fod y Cyngor wedi methu ag asesu’r effaith y byddai’r cynllun yn ei gael ar ysgolion Cymraeg yr ardal yn briodol.
Mae’r dyfarniad yn dilyn cais am adolygiad barnwrol gan Rhieni Dros Addysg Gymraeg (“RhAG”), mudiad sy’n cefnogi rhieni sy’n dymuno dewis addysg Gymraeg i’w plant ac sy’n hyrwyddo addysg Gymraeg yn gyffredinol.
Roedd gwrandawiad yr achos ar Orffennaf 18 a 19 yng Nghaerdydd o flaen Mr Ustus Kerr.
Proses gyfreithiol ar gyfer herio penderfyniadau cyrff cyhoeddus yw adolygiad barnwrol.
Wedi’u cynrychioli gan gwmni cyfreithiol masnachol Darwin Gray LLP a Gwion Lewis CB o Landmark Chambers, llwyddodd RhAG i herio penderfyniad y Cyngor i agor yr ysgol newydd gan nad oedd yr ymgynghoriad statudol a’r penderfyniad dilynol o hynny yn cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Penderfynodd Mr Ustus Kerr, ar ôl ystyried yr achos yn ofalus, fod y Cyngor wedi camddehongli’r Cod drwy fethu ag ystyried y byddai ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg lleol yn ysgolion a fyddai’n cael eu “heffeithio” gan yr ysgol enfawr cyfrwng Saesneg newydd.
Yn ogystal â chynnig eglurder ar ystyr y Cod, bydd y dyfarniad ag oblygiadau sylweddol ar gyfer awdurdodau lleol ledled Cymru pa bryd bynnag y byddan nhw’n cyflwyno cynllun ar gyfer ysgolion newydd yn eu hardaloedd.
Ddylai awdurdodau lleol ddim parhau i ragdybio nad oes angen asesu’r effaith ar y Gymraeg os mai ysgolion cyfrwng Saesneg yn unig sydd yn cael eu sefydlu neu eu cau.
Gwrthododd Mr Ustus Kerr ymgais y Cyngor i ddadlau y byddent wedi bwrw ymlaen â’r ysgol newydd hyd yn oed pe bai asesiad effaith wedi’i wneud yn ystod yr ymgynghoriad, beth bynnag fyddai cynnwys neu ganlyniad yr asesiad wedi bod.
‘Cynsail clir’
“Rydym yn croesawu penderfyniad yr Uchel Lys, ac yn credu y bydd dehongliad gofalus y llys o’r Cod Trefniadaeth Ysgolion o fudd i awdurdodau lleol ledled Cymru,” meddai Siôn Fôn, cyfreithiwr a Chymrawd gyda Darwin Gray LLP, sy’n cynrychioli RhAG.
“Mae’r dyfarniad yn gosod cynsail clir ynghylch pryd y dylid cynnwys asesiad effaith ar y Gymraeg yn ystod proses ymgynghori statudol.
“Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod y rheolau caeth sydd ynghlwm wrth ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu parchu a bod yr holl faterion perthnasol yn cael eu hystyried yn llawn gan y cyhoedd fel rhan o ymgynghoriad teg.
“Mae asesiadau effaith ar y Gymraeg yn helpu awdurdodau i ragweld ac yna lliniaru effeithiau andwyol posibl ar yr iaith ac felly maent yn hynod o bwysig, yn enwedig mewn ardaloedd o bwysigrwydd ieithyddol arwyddocaol fel Pontardawe.”
Mae RhAG ‘wrth eu boddau’ gyda’r canlyniad, yn ôl Elin Maher, Cyfarwyddwr Cenedlaethol RhAG.
“Mae’r cynllun wedi achosi cryn bryder i ni fel mudiad, ac yn ehangach yn y gymuned yma ym Mhontardawe, yn enwedig gan fod y Cyngor eu hunain yn cydnabod fod yr ardal yn un o bwysigrwydd ieithyddol arwyddocaol o ran y Gymraeg,” meddai.
“Roeddem wastad o’r farn fod y Cyngor wedi methu â rhoi ystyriaeth ddigonol i effaith y penderfyniad ar ysgolion Cymraeg yr ardal.
“Pan godwyd y materion hyn gyda’r Cyngor, cafwyd ymateb ffyrnig a bygythiol, ac felly hoffwn ddiolch ar ran RhAG i bawb yng nghymuned ehangach Pontardawe a gefnogodd yr ymgyrch hon.
“Hefyd, ni allai RhAG fod wedi bod yn llwyddiannus heb Gwion Lewis CB a Darwin Gray LLP a ddarparodd gyngor cyfreithiol rhagorol ynghyd â hyblygrwydd o ran ffioedd.
“Ni chynhaliodd y Cyngor asesiad effaith llawn a phriodol ar yr iaith Gymraeg ac addysg Gymraeg.
“Oherwydd diffyg asesiad o’r fath, a’r diffyg cydnabyddiaeth o’r bygythiad sylweddol i addysg Gymraeg yn ardal Pontardawe o ganlyniad i fethiannau’r Cyngor, bu’n rhaid i ni ymyrryd.
“Rydym yn hynod o falch bod y Llys wedi cyfiawnhau ein safbwynt.
“Rydym yn gobeithio y bydd awdurdodau lleol yn adolygu’r dyfarniad hwn yn ofalus ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cynnal asesiadau effaith ieithyddol trylwyr ar unrhyw ddatblygiadau cymunedol arfaethedig, yn enwedig ym meysydd addysg a hamdden.”
‘Dyfarniad o bwysigrwydd cenedlaethol i Gymru’
“Mae’r dyfarniad hwn o bwysigrwydd cenedlaethol i Gymru,” meddai Gwion Lewis CB, a gynrhychiolodd RhAG drwy gydol yr achos.
“Mae’n datgan yn glir fod yn rhaid i gynghorau asesu’r effaith ar y Gymraeg pa bryd bynnag y bydd gwir bosibilrwydd y gallai cynllun i agor ysgol newydd effeithio un ai ar ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli, neu ar hyfywedd y Gymraeg yn y gymuned.
“Dylai pawb sy’n ymwneud ag addysg yng Nghymru ddarllen y dyfarniad yn ofalus.”
Un arall sydd wedi croesawu’r cyhoeddiad yw Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.
“Mae hyn yn newyddion da i Gwm Tawe o ran gwarchod a datblygu’r Gymraeg yn lleol ac o ran tanlinellu natur wallus yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y cynlluniau ad-drefnu ysgolion cyfrwng Saesneg,” meddai.
“Hoffwn ddiolch i RhAG, a lwyddodd i herio penderfyniad y Cyngor i agor yr ysgol newydd gan nad oedd yr ymgynghoriad statudol a’r penderfyniad dilynol o hynny yn cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.
“Rwy’n gyson wedi codi’r pwnc hwn gyda’r Cyngor blaenorol a gyda Llywodraeth Cymru, ac felly’n falch iawn o benderfyniad yr Uchel Lys.
“Mae nawr angen ymgynghoriad newydd ar opsiynau amgen o ran ad-drefnu ysgolion yng Nghwm Tawe a sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd y cyllid a glustnodwyd ar gyfer y cynllun ac a gafodd ei oedi yn sgil y pryderon hyn, ar gael i’r Cyngor ar gyfer yr opsiynau posib eraill.”