Mae ysgolion, rhieni a dioddefwyr camdriniaeth rywiol wedi rhoi “ymateb cadarnhaol” i gwricwlwm addysg rhyw newydd Cymru, yn ôl penaethiaid addysg.
Fe wnaeth pwyllgor craffu addysg ac economi Cyngor Gwynedd gyfarfod ddydd Iau (Hydref 20) er mwyn trafod adroddiad ar y maes llafur gorfodol.
Arweiniodd y cwricwlwm newydd at ymateb tanllyd gan nifer fechan o ymgyrchwyr pan gafodd ei drafod yng Nghaernarfon fis Awst.
Bryd hynny, yn ystod cyfarfod Cabinet y Cyngor, cafodd yr heddlu eu galw a bu’n rhaid gwagio oriel y cyhoedd ar ôl i heclwyr amharu ar y cyfarfod.
Dan y cwricwlwm newydd, mae’r pwnc Addysg Rhyw a Chydberthynas wedi newid i fod yn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac yn ôl yr adroddiad pwrpas y newid ydy canolbwyntio ar berthnasau.
Dyma’r canllawiau statudol ar gyfer prif athrawon, cyrff llywodraeth ac Awdurdodau Addysg Lleol, ac mae’r maes llafur wedi bod yn cael ei ddysgu yn ysgolion lleol Gwynedd, ac i flwyddyn saith yn chwech o ysgolion uwchradd y sir, ers mis Medi eleni.
Cafodd y cyfarfod ddydd Iau ei gynnal gan Garem Jackson, pennaeth Addysg Gwynedd, a Beca Brown, yr Aelod Cabinet dros Addysg.
Fe wnaeth Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, ddangos ei “solidariaeth” â Beca Brown, cynghorydd Llanrug, pan gododd y mater yn y Senedd yn ddiweddar.
‘Cyfathrebu cadarnhaol’
Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Beca Brown ei bod hi dal yn “ddyddiau cynnar iawn yn siwrne’r maes llafur”, ond fod adborth gan ysgolion a rhieni’r sir yn “dda”.
“Mae yna gyfathrebu cadarnhaol wedi bod rhwng ysgolion a rhieni,” meddai.
“Mae gen i bob ffydd ynddyn nhw i gyflwyno’r addysg gynhwysol hon sy’n addas i ddatblygiad y plentyn.
“Dw i’n hapus y bydd plant yn derbyn addysg a fydd yn eu cadw nhw’n ddiogel ac yn hapus wrth iddyn nhw fynd drwy fywyd.”
Ychwanegodd fod y maes llafur wedi cael “llawer o sylw”.
“Dw i wedi cael llawer o ohebiaeth gan ddioddefwyr trais rhywiol sydd nawr yn oedolion, gan rieni dioddefwyr, a phobol sy’n gweithio gyda dioddefwyr.
“Fe wnaethon nhw i gyd ddweud pa mor falch ydyn nhw fod yr addysg hon wedi cael ei ffurfioli a’i bod hi’n siom na ddigwyddodd hyn ynghynt.
“Dw i’n gobeithio y bydd hyn yn sicrhau na fydd yr un plentyn yn cael ei fwlio na’i sarhau oherwydd ei fod yn wahanol i’r hyn sy’n cael ei ystyried fel y ‘norm’.
“Dyna pam ei bod hi mor bwysig bod hwn yn cael ei gyflwyno.”
Ymgynghoriad
Dywedodd Garem Jackson wrth y cyfarfod fod ymgynghoriad cenedlaethol wedi bod ar y cwricwlwm cenedlaethol i Gymru.
“Cafodd ei dderbyn, rydyn ni’n trafod yn gyson gyda phenaethiaid, a phan mae Beca wedi bod yn trafod maen nhw wedi rhoi ymateb cadarnhaol, sy’n beth da i allu ei ddweud,” meddai.
“Mae gen i bob ffydd yn arweinwyr ein hysgolion i ddelio â’r mater hwn mewn ffordd ddoeth dros ein hysgolion.”
Dywedodd fod cwricwlwm “lluoseddol a chytbwys” yn helpu plant i ddeall beth yw “perthnasau iach a gosod ffiniau [mewn perthnasau]”.
“Mae’r Comisiynydd Plant a’r NSPCC wedi croesawu’r cwricwlwm,” meddai.
Yn ystod y drafodaeth, gofynnodd y Cynghorydd Rhys Tudur a oes yna “ffordd o gael rhywbeth allan i rieni ac athrawon er mwyn gweld pa mor fodlon ydyn nhw?”
“Dydy hi ond yn fis Hydref, ond byddai hi’n ddefnyddiol cynnig rhywbeth maes o law, fyddai’n fwy perthnasol ar ôl gyfnod eithaf sylweddol er mwyn i ni allu adolygu’r datblygiad?”
‘Polareiddio’
Dywedodd y Cynghorydd Jina Gwyrfai fod y cwricwlwm wedi “polareiddio” pobol, gan ychwanegu ei bod hi “wedi cael athrawon yn gofyn am fwy o hyfforddiant a rhieni sydd ddim yn hapus”.
“Os ydych chi eisiau ystyried y cwricwlwm, dylech chi graffu ar ymatebion negyddol hefyd,” meddai.
Fe wnaeth Garem Jackson ymateb gan ddweud bod yr ymateb negyddol wedi dod yn gan “leiafrif bychan sy’n llafar yn y maes” yn unig.
“Yr ymateb rydyn ni’n ei gael yw bod ysgolion, rhieni a staff yn ei groesawu.”
Synnu ei fod ‘mor ddadleuol’
Dywedodd y cyn-athro a’r Cynghorydd Cai Larsen ei fod yn synnu bod y mater wedi bod yn un “mor ddadleuol”.
“Fel rhywun sydd wedi dysgu’r pwnc, dydy’r fframwaith ddim mor wahanol â hynny i’r ffordd fu’n cael ei ddysgu yn y gorffennol, yn fy amser i,” meddai.
“Yr elfen sy’n ei wneud yn wahanol yw mwy o bwyslais ar berthnasau, ond fel arall does dim yn fy nharo i fel ei fod yn sylfaenol wahanol.”
“Yr hyn sydd wedi newid yw’r ffaith ei fod yn cael ei dysgu dros bob maes addysg i blant ddeall perthnasau iach a gosod ffiniau [mewn perthnasau],” meddai Garem Jackson wrth ymateb.
“Mae’n ein helpu ni i gryfhau’r ffordd rydyn ni’n diogelu [plant], fel bod plant yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am eu bywydau eu hunain.”
‘Tir Orwellian’
“Dw i ddim yma er mwyn ffraeo. Dw i eisiau craffu ar yr hyn sydd wedi dod yn orfodol yn fanylach,” meddai’r Cynghorydd Louise Hughes, oedd wedi dangos gwrthwynebiad cryf i’r cwricwlwm yn y cyfarfod ym mis Awst.
Gofynnodd a oedd hi’n bosib i rieni dynnu eu plant o wersi, pam fod y maes llafur wedi newid ei enw, ac am addasrwydd trafod rhywioldeb gyda phlant ifanc.
“Mae hi’n teimlo i fi ein bod ni’n ymlwybro i dir Orwellian, rhieni sy’n adnabod eu plant orau, nid y llywodraeth,” meddai.
“Dw i ddim yn cytuno [â’r maes llafur]. Dw i eisiau i hynny fod ar gofnod.”
Mewn araith hir, dywedodd y Cynghorydd Gruffudd Williams ei fod yn “anhapus iawn gyda’r cyfeiriad mae Gwynedd yn mynd iddo ar y funud”.
Roedd ganddo bryderon am ideoleg, terminoleg, ac addasrwydd trafod materion rhywiol gyda phlant ifanc.
Yn ystod y ddadl, fe wnaeth Iwan Evans, swyddog monitro’r Cyngor, atgoffa’r aelodau ei bod hi’n “anaddas” gwneud unrhyw honiadau oedd yn awgrymu – heb dystiolaeth – fod ysgolion a’r Cyngor, drwy gyflwyno’r cwricwlwm, yn euog o ymddygiad sy’n mynd yn groes i’w dyletswydd tuag at blant.
‘Diogelu plant’
Mae GwE hefyd yn cefnogi’r maes llafur.
Wrth siarad yn ystod y cyfarfod, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr GwE, Arwyn Thomas, mai eu bwriad ydy “sicrhau bod ein plant yn ddiogel”.
“Ein rôl ni yw gweithio gydag ysgolion ac arweinwyr i weld sut fedrwn ni wneud hynny,” meddai.
Disgrifiodd sut y byddai’r cwricwlwm yn datblygu hefyd, ac yn cael ei archwilio’n lleol.
“Y nod ydy gosod cerrig milltir i weld pa mor effeithiol yw’r ddarpariaeth,” meddai.
Cynigiodd y Cynghorydd Beca Brown fod yr adroddiad yn cael ei graffu rywbryd eto, a chafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd Paul Rowlinson.
Fe wnaeth yr aelodau bleidleisio i gynnal pleidlais gofrestredig, i dderbyn yr adroddiad, a’i graffu ymhellach maes o law.