Mae Llywodraeth Sbaen yn barod i ystyried haneru’r ddedfryd ar gyfer y rhai sy’n cael eu canfod yn euog gan lys o annog gwrthryfel, yn ôl adroddiadau’r wasg.

Mae’r drosedd yn un y cafwyd arweinwyr ymgyrch annibyniaeth Catalwnia yn euog ohoni ers 2017.

Mae’n debyg mai’r nod yw ceisio sicrhau bod cyfreithiau Sbaen yn nes at gyfreithiau Ewrop.

Ar hyn o bryd, 15 mlynedd o garchar yw’r ddedfryd lymaf ar gyfer y drosedd yn Sbaen, tra mai chwe blynedd yn unig yw’r ddedfryd lymaf yn Ewrop.

Er y byddai’n haneru’r ddedfryd, dydy’r ddeddfwriaeth newydd ddim yn dileu’r drosedd yn gyfangwbl.

Fe fu bwriad i ddiwygio’r gyfraith fyth ers i Pedro Sánchez ddod yn brif weinidog Sbaen yn 2020, wrth iddo arwain clymblaid rhwng y Sosialwyr ac Unidas Podemos.

Cafwyd naw o arweinwyr ymgyrch annibyniaeth Catalwnia yn euog o annog gwrthryfel yn dilyn y refferendwm yn 2017, ac yn 2019 cafwyd yr arweinwyr hyn yn euog a’u dedfrydu i hyd at 13 o flynyddoedd o garchar am eu rhan yn yr helynt.

Ond cawson nhw eu hesgusodi ar ôl tair blynedd dan glo yn 2021.

Cyllideb Sbae

Mae lle i gredu bod y newid arfaethedig yn y gyfraith yn gysylltiedig â’r trafodaethau ynghylch cyllideb Sbaen.

Bydd y llywodraeth yn cyflwyno’u cynlluniau am y tro cyntaf cyn dadl yr wythnos hon.

Ar hyn o bryd, mae angen cefnogaeth plaid Esquerra, plaid lywodraeth Catalwnia, a phleidiau eraill o blaid annibyniaeth ym mhob rhan o Sbaen, Catalwnia a Gwlad y Basg ar Lywodraeth Sbaen er mwyn i’w cyllideb gael ei phasio.