Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ystafelloedd arbennig, tebyg i gynlluniau sydd ar y gweill yn Lloegr, er mwyn lleihau’r pwysau ar adrannau brys yn ystod misoedd y gaeaf.
Yn Llorgr, mae disgwyl i’r Gwasanaeth Iechyd sefydlu canolfannau 24/7 er mwyn darparu gwbyodaeth gywir am gapasiti mewn ysbytai a chartrefi gofal.
Byddan nhw’n cael eu rheoli gan glinigwyr ac arbenigwyr eraill sy’n gallu adnabod pwysau a gweithredu er mwyn osgoi oedi i ambiwlansys ac arhosiadau hir mewn adrannau brys.
Pe bai un ysbyty’n eithriadol o brysur, byddai staff yn gallu dargyfeirio ambiwlansys i ysbyty arall, a gallai meddygon a nyrsys gael eu symud er mwyn ateb y galw hefyd.
Canolfannau
Bydd 42 o ganolfannau’n cael eu sefydlu yn Lloegr erbyn Rhagfyr 1, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gaeaf anodd.
Mae cynlluniau eraill yn cynnwys canolfannau i drin heintiau resbiradol, fel bod modd cynnig gofal dydd y tu allan i’r ysbyty ar gyfer Covid-19, ffliw a chyflyrau eraill yn ymwneud ag anadlu.
Mae canolfannau llawfeddygol wedi bod o gymorth i Loegr wrth iddyn nhw leihau rhestrau aros, gyda 50 o ganolfannau’n cael eu hychwanegu at y 91 oedd eisoes ar waith, ac maen nhw wedi cael cefnogaeth gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, diffyg cynllunio yw’r rheswm pam nad oes canolfannau tebyg yng Nghymru.
‘Amser anodd iawn’
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn wynebu amser anodd iawn ledled y Deyrnas Unedig, ond rydym yn gwybod fod Lloegr yn gwneud yn well o lawer na Chymru mewn sawl ffordd – o restrau aros am driniaethau i arhosiadau mewn adrannau brys ac oedi i ambiwlansys – felly mae hi ond yn iawn ein bod ni’n edrych ar yr hyn sy’n gweithio yn rhywle arall,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae’r cynlluniau hyn yn manteisio i’r eithaf ar dechnoleg a ffyrdd mwy clyfar o weithio er mwyn sicrhau bod gwasanaethau brys yn gweithio ar eu gorau i gleifion a staff – dylen nhw gael eu hystyried o ddifrif fel ffordd o atal pwysau’r gaeaf a chamreolaeth hirdymor Llafur yn llesteirio’r Gwasanaeth Iechyd.
“Ddylai Llafur ddim gadael cleifion a staff yn aros mewn system nad yw’n gweithio iddyn nhw, dim ond oherwydd dydyn nhw ddim eisiau copïo Lloegr.
“Mae’r agwedd honno wedi golygu na chafodd unrhyw ganolfannau llawfeddygol eu sefydlu yng Nghymru, sydd wedi gadael 60,000 o bobol yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth.
“Mae angen i Lafur fynd i’r afael â’r Gwasanaeth Iechyd a rhoi’r gorau i dorri pob record anghywir.”