Mae presenoldeb Ffliw Adar Hynod Bathogenig H5N1 wedi’i gadarnhau mewn dofednod ar safle ar Ynys Môn.

Dyma’r ail achos o o ffliw adar sydd wedi ei gadarnhau ar Ynys Môn y mis yma.

Mae Parth Gwarchod 3km a Pharth Goruchwylio 10km wedi’u datgan o amgylch yr adeilad heintiedig, i gyfyngu ar y risg o ledaenu’r clefyd.

O fewn y parthau hyn, mae symudiadau adar ac adar yn ymgynnull wedi’u cyfyngu, ac mae’n rhaid datgan pob daliadaeth sy’n cadw adar.

Mae’r mesurau’n llymach yn y Parth Gwarchod 3km.

Mae’n hanfodol bod ceidwaid adar yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn sicrhau bod ganddyn nhw’r lefelau uchaf un o fioddiogelwch yn eu lle.

Mae asiantaethau iechyd y Deyrnas Unedig yn cynghori bod y risg i iechyd y cyhoedd o’r feirws yn isel iawn ac yn ôl asiantaethau safonau bwyd y Deyrnas Unedig, mae ffliw adar yn peri risg isel iawn i ddefnyddwyr y Deyrnas Unedig o ran diogelwch bwyd.

Cyfrifoldebau

Dylai pob ceidwad adar sy’n cael eu cadw fod yn wyliadwrus am arwyddion o’r clefyd fel mwy o farwolaethau, gofid resbiradol a gostyngiad o ran y bwyd neu ddŵr sy’n cael ei fwyta neu ei yfed, neu leihad yn nifer yr wyau a gaiff eu dodwy.

Ymgynghorwch â’ch milfeddyg yn y lle cyntaf os yw eich adar yn sâl.

Os ydych chi neu’ch milfeddyg yn amau y gallai ffliw adar fod yn achosi salwch yn eich adar, rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, roi gwybod am hyn i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Bydd hyn yn sbarduno ymchwiliad clefyd gan filfeddygon APHA.

Rhaid i chi ddefnyddio mesurau bioddiogelwch llym i atal unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, porthiant neu wely adar a allai fod wedi’u llygru gan adar gwyllt rhag dod i’ch safle.