Bydd yn rhaid i dîm rygbi merched Cymru aros i weld a ydyn nhw’n un o’r timau trydydd safle gorau yng Nghwpan y Byd, ar ôl colli o 13-7 yn erbyn Awstralia yn eu gêm grŵp olaf.

Roedd ganddyn nhw gyfle i gymhwyso’n awtomatig pe baen nhw wedi ennill, ond bellach maen nhw’n dibynnu ar ganlyniadau’r gemau eraill yn y twrnament er mwyn cyrraedd y rowndiau terfynol fel un o ddau dîm trydydd safle.

Cipion nhw bwynt bonws wrth golli’r gêm, sy’n golygu bod ganddyn nhw bum pwynt.

Mae Ffrainc eisoes allan ohoni, ond fe allen nhw gael eu disodli gan Dde Affrica, sy’n herio Lloegr fory (dydd Sul, Hydref 23), a hynny ar wahaniaeth pwyntiau.

Mae gan yr Eidal, yr Unol Daleithiau a Siapan obaith hefyd, gyda’r Eidal a’r Unol Daleithiau wedi sicrhau gwahaniaeth pwyntiau gwell na Chymru hyd yn hyn.

Cymru’n colli yn erbyn Awstralia

Cael a chael oedd hi i Gymru yn eu gêm olaf yn y grŵp, ond roedd Awstralia ychydig yn rhy gryf iddyn nhw yn y pen draw.

Cafodd yr Awstraliaid gryn dipyn o feddiant wrth chwarae gêm agored, a sgoriodd Iliseva Batibasaga gais ym munudau agoriadol yr ornest, gyda’r trosiad gan Lori Cramer yn llwyddiannus.

Roedd diffyg disgyblaeth a diffyg trin y bêl yn dda yn wendid i Gymru yn gynnar yn yr hanner cyntaf, ond ar ôl i Jaz Joyce a Lisa Neumann gyfuno, croesodd Sioned Harries am gais, a sgoriodd Elinor Snowsill y trosiad oddi ar y postyn i’w gwneud hi’n gyfartal, 7-7.

Arhosodd amddiffyn Cymru’n gadarn am weddill yr hanner, wrth i Awstralia barhau i bwyso am gais ond llwyddon nhw i gael cic gosb i fynd ar y blaen.

Cafodd Kaitlan Leaney, eilydd o glo Awstralia, gerdyn melyn gyda deng munud yn weddill, a hynny am dacl beryglus ar Alex Callender, a bu’n rhaid i Callender adael y cae gyda Siwan Lillicrap, capten y garfan, yn dod i’r cae i ennill ei hanner canfed cap.

Doedd Cymru’n methu manteisio ar chwaraewr ychwanegol, serch hynny, a chafodd Awstralia gic gosb hwyr i ennill yr ornest.

‘Rhwystredig’

“Mae yna lawer o rwystredigaeth ar hyn o bryd,” meddai Ioan Cunningham wrth BBC Cymru.

“Dw i’n teimlo ei bod hi’n un wnaethon ni adael iddi fynd, os ydw i’n onest.

“Dangoson ni gyffyrddiadau y gallen ni fod wedi bygwth, ond pan gawson ni gyfleoedd doedd ein cywirdeb ddim yn ddigon da.

“Mae’r un pwynt hwnnw’n enfawr, a byddwn ni’n dal ein gafael ar hynny tra bod y penwythnos yn mynd yn ei flaen.”