Bydd tîm pêl-droed merched Cymru’n herio’r Ffindir mewn gêm her ryngwladol ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 12, gyda’r gic gyntaf yn y Pinatar Arena yn Sbaen am 6.30yh.

Dydyn nhw ddim wedi chwarae yn erbyn ei gilydd ers Cwpan Cyprus yn 2018, pan gipiodd Cymru fuddugoliaeth o 1-0 diolch i gôl Kayleigh Green.

Bydd y daith i Sbaen yn gyfle i edrych yn ôl ar yr ymgyrch ragbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd yn 2023, gyda thorcalon i Gymru yn sgil gôl yn ystod munud olaf amser ychwanegol yn erbyn y Swistir wrth i dîm Gemma Grainger geisio cymhwyso am y tro cyntaf erioed.

Bydd y gêm hefyd yn dechrau paratoadau Cymru ar gyfer ymgyrch ragbrofol Ewro Merched UEFA 2025, gyda’r enwau yn cael eu tynnu allan o’r het ar gyfer y rownd ragbrofol yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Fel rhan o’r paratoadau hynny, bydd Cymru yn chwarae yn Wrecsam yn ystod un o ffenestri rhyngwladol y flwyddyn nesaf ond does dim manylion wedi’u cadarnhau eto.

Bydd Cymru’n dychwelyd i’r Cae Ras am y tro cyntaf ers eu buddugoliaeth o 2-0 dros Estonia ym mis Mawrth 2020.

‘Cyfle arall i gymryd cam ymlaen’

“Bydd y deg diwrnod yn gyfle arall i gymryd cam ymlaen yn ein datblygiad fel tîm,” meddai Gemma Grainger.

“Mae’n rhoi cyfle i ni ddod at ein gilydd ac adolygu ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd, ynghyd â chwarae yn erbyn cenedl arall a gystadlodd ym Mhencampwriaethau Ewrop yn yr haf.”