Mae S4C, Llywodraeth Cymru, yr Urdd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru am roi gwobr arbennig ‘Diolch y Ddraig’ i berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam ar ran pobol Cymru.

Ers prynu Clwb Pêl-droed Wrecsam, mae’r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi defnyddio’u statws byd-eang i hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg.

Mae eu cyfres boblogaidd Welcome to Wrecsam, sy’n dogfennu cynnydd y timau yn eu tymor cyntaf, yn integreiddio’r Gymraeg i adrodd stori un o glybiau pêl-droed hynaf y byd.

I gydnabod y cyfraniad enfawr maen nhw wedi’i wneud i roi Cymru ar lwyfan rhyngwladol, mae gwobr “Diolch y Ddraig” yn cynrychioli gwerthfawrogiad cenedlaethol a’r parch sy’n cael ei ddangos gan y ddau at Gymru.

Bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno fel rhan o Gyngerdd Efrog Newydd Cymru i’r Byd ar Dachwedd 14 yn Neuadd Sony, Times Square.

Bydd y digwyddiad hwn, fydd yn llawn enwogion a sêr, yn arddangos y gorau oll o dalent, diwylliant ac iaith Cymru a bydd yn cael ei ddarlledu ar S4C ar Dachwedd 20, y noson cyn gêm bêl-droed gyntaf Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Bryn Terfel fydd yn arwain y dathliadau, ochr yn ochr â llu o artistiaid cyfoes Cymreig wrth ddathlu’r gorau o Gymru.

‘Adeiladu momentwm’

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch iawn o weld Rob a Ryan yn cael eu cydnabod am eu rôl arbennig i bêl-droed yng Nghymru ac am roi Cymru ar lwyfan y byd,” meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Rydym yn byw mewn cyfnod cyffrous gyda sefydliadau a phobl angerddol yn cydweithio i adeiladu momentwm y tu ôl i hyrwyddo ein diwylliant, ein hanes, a’n hiaith.

“Mae Cymru yn wlad arbennig ac mae pêl-droed yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddod â Chymru i’r byd.

“Gyda Rob a Ryan yn arwain Wrecsam, a Chymru yn anelu am Gwpan y Byd, edrychwn ymlaen at ddathlu’r gydnabyddiaeth hon gyda’n ffrindiau yn S4C.”

‘Ysbrydoli cenhedlaeth gyfan’

“Mae S4C yn falch iawn o gydnabod y cyfraniad y mae Rob a Ryan wedi’i wneud drwy ysbrydoli cenhedlaeth gyfan i ddathlu a chofleidio Cymru i’r Byd,” meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr y sianel.

“Mae eu hangerdd dros Wrecsam, gan gynnwys dysgu Cymraeg, wedi taflu goleuni ar bêl-droed Cymru wrth i ni anelu at Gwpan y Byd.

“Efallai fod Cymru’n fach, ond rydyn ni’n angerddol ac yn falch o’n hiaith a’n diwylliant.

“Fel prif ddarlledwr Cymru, mae’n anrhydedd i ni gydnabod eu cyfraniad trwy ddweud ‘Diolch’ yn ein cyngerdd arbennig.”