Mae John Kear, prif hyfforddwr tîm rygbi’r gynghrair Cymru, yn dweud bod ei dîm “wedi ennyn parch llawer o bobol” er eu bod nhw wedi colli eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd.
Collon nhw o 18-12 yn erbyn Ynysoedd Cook i ddechrau eu hymgyrch, wrth iddyn nhw frwydro i gymhwyso o grŵp digon anodd, gyda Tonga a Papua Guinea Newydd hefyd ymhlith eu gwrthwynebwyr.
Dydy Cymru ddim wedi ennill yr un gêm yng Nghwpan y Byd ers 2000.
Roedden nhw ar y blaen o 12-8 ar yr egwyl ar ôl i Rhodri Lloyd fanteisio ar gic bwt gan Josh Ralph, a chroesodd Ollie Olds am gais hefyd.
Sgoriodd Anthony Gelling gais i Ynysoedd Cook, gyda phedwar pwynt yn dod oddi ar droed Steve Marsters.
Roedd y sgôr yn gyfartal wrth i Davvy Moale dorri amddiffyn Cymru, cyn i Marsters selio’r fuddugoliaeth gyda chic.
“Dw i’n credu ein bod ni wedi ennyn parch llawer o bobol, a dw i’n meddwl mai dyna berfformiad tîm rygbi’r gynghrair Cymru ers amser hir iawn, a dw i’n eithriadol o falch o’r chwaraewyr a’r ymdrech maen nhw wedi’i wneud,” meddai John Kear.
“Rydyn ni’n un o’r timau isaf yn ôl y detholion yn y grŵp, mae gyda ni lawer o chwaraewyr rhan amser, ond dw i’n credu eu bod nhw wedi dangos nad gallu yw popeth o ran bod yn rhan amser, a’i bod hi weithiau’n ymwneud ag amgylchiadau.
“Dw i’n sicr yn meddwl y bydd unrhyw un sydd wedi gwylio wedi dod i ffwrdd â gwerth llawn am eu harian, a gyda llawer o edmygedd o’r bois oedd yn gwisgo’r coch.”