Mae Cylch yr Iaith yn galw ar atyniadau twristaidd i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Daw’r alwad ar ôl iddyn nhw gasglu tystiolaeth ar hap gan 114 o sefydliadau sy’n denu twristiaid i Gymru.
O blith y rhain, roedd gan 58 ohonyn nhw daflenni uniaith Saesneg.
Roedd rhywfaint o Gymraeg ar daflenni deg arall, ac roedd gan 32 ohonyn nhw’n unig daflenni dwyieithog.
Roedd gwefannau 68 o’r sefydliadau’n uniaith Saesneg, saith yn cynnwys rhywfaint o Gymraeg, a 38 yn ddwyieithog.
Pam?
Yn ôl Howard Huws, llefarydd ar ran Cylch yr Iaith, nid anhawster technegol sy’n gyfrifol am ddiffyg Cymraeg y sefydliadau dan sylw.
“Gall technoleg gwybodaeth ddygymod yn rhwydd â gwahanol ieithoedd,” meddai.
“Yn wir, roedd un wefan yn cynnig dewis o sawl iaith, ond nid y Gymraeg.
“Mae hyn yn fater o ddiffyg ymwybyddiaeth, neu waeth, diffyg ewyllys.
“Does dim cysondeb i’w weld yn y darlun.
“Mae rhai atyniadau yn ardaloedd Seisnigedig Cymru yn defnyddio’r Gymraeg yn eu taflenni a’u gwefannau, ac eraill yn yr ardaloedd mwy Cymraeg yn uniaith Saesneg.
“Ar y cyfan, mae taflenni a gwefannau awdurdodau lleol a’r Llywodraeth yn tueddu i fod yn ddwyieithog, sydd yn rhoi arweiniad i eraill: ond mewn gormod o achosion, mae’r sawl sy’n rheoli atyniadau a mentrau twristaidd yng Nghymru fel petaen nhw o’r farn nad yw’r Gymraeg yn berthnasol.
“Mae fel petaen nhw’n anymwybodol bod canran dda o’u hymwelwyr yn siarad Cymraeg, ac y gellid cynyddu eu niferoedd pe baen nhw yn defnyddio’r Gymraeg i apelio atyn nhw.”
‘Colli cyfle’
Yn ôl Howard Huws, mae anwybyddu’r Gymraeg yn golygu bod nifer o atyniadau’n “colli cyfle marchnata”.
“Trwy anwybyddu’r Gymraeg mae’r atyniadau hyn yn colli cyfle marchnata, ac yn rhoi’r argraff mai rhywbeth hanfodol Seisnig yw twristiaeth yng Nghymru,” meddai.
“Masnach wedi’i chynnal gan y di-Gymraeg trwy apelio at y di-Gymraeg, er budd y di-Gymraeg.
“Nid yw hynny’n gwneud synnwyr ariannol na diwylliannol.
“Gallai profiad yr ymwelydd – o ba iaith bynnag – fod cymaint cyfoethocach a gwell pe bai’n cynnwys y Gymraeg hefyd, sef y peth unigryw i Gymru.
“Nid oes rhaid gwario llawer yn ychwanegol er mwyn cywiro’r diffyg hwn.
“Y rhan fwyaf o’r gost yw argraffu taflen neu lunio gwefan: bach iawn yn ychwaneg y mae’n rhaid ei wario er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn ddwyieithog.
“Gallai gwneud hynny rŵan, yn barod ar gyfer y tymor ymwelwyr nesaf, ad-dalu’n dda yn ariannol ac o ran gwella delwedd twristiaeth yng Nghymru fel masnach frodorol, yn hytrach nag un drefedigaethol.”
Rheoleiddio a goruchwylio
Yn ôl Howard Huws, mae gan sefydliadau fel swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a’r Mentrau Iaith ran i’w chwarae yn y frwydr.
“Onid rhan o’u gorchwyl nhw yw hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ym myd masnach?” meddai.
“Onid hawdd fyddai iddyn nhw annog a chynorthwyo mentrau sydd am ddenu rhagor o siaradwyr Cymraeg?
“A’r cymdeithasau twristiaeth rhanbarthol hwythau: beth yw eu barn nhw am hyn? A oes ganddyn nhw un?
“Ynteu a ydyn nhw yn fodlon i rai o’u haelodau roi’r argraff nad oes lle i’r Gymraeg yn y fasnach ymwelwyr yma?
“Mae’n bryd i’r rhai cyfrifol am ddyfodol twristiaeth yng Nghymru gywiro’r sefyllfa anfoddhaol hon os ydyn nhw am i dwristiaeth fod yn rhan o’n ffordd ni o fyw.”