Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio her 50 diwrnod i geisio cael mwy o bobol i ddychwelyd adref o’r ysbyty.
Bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cydweithio i ddefnyddio cynllun gweithredu deg pwynt i dargedu’r bobol sydd wedi bod yn aros hiraf i adael yr ysbyty.
Rhan o’r nod yw lleddfu’r pwysau ar systemau iechyd a gofal dros y gaeaf.
Y bwriad yw rhannu arferion gorau rhwng y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chynghorau lleol, ac mae pob bwrdd iechyd ac awdurdod lleol wedi derbyn yr Her 50 Diwrnod y Gaeaf ar gyfer Gofal Integredig.
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn poeni nad oes yna gyllid ychwanegol na chynllun i gynyddu capasiti gofal cymdeithasol.
Mae’r Her 50 Diwrnod yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi gwytnwch dros y gaeaf, gydag o leiaf £162.95m yn mynd tuag at hynny drwy wahanol gronfeydd.
‘Perygl o golli annibyniaeth’
Dywed Diane Walker, Pennaeth y Gwasanaeth Rhyddhau Integredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, eu bod nhw’n gwybod ei bod hi’n well i gleifion adael yr ysbyty cyn gynted ag y maen nhw’n barod.
“Pan fydd claf yn treulio mwy o amser nag sydd ei angen yn yr ysbyty, mae mewn mwy o berygl o golli ei annibyniaeth a dirywio ymhellach,” meddai, gan gyfeirio at achos dyn oedrannus oedd yn barod i adael yr ysbyty’n dilyn salwch acíwt ond oedd angen bod mewn cartref gofal.
“Er mwyn ceisio dod o hyd i gartref gofal addas, aeth y tîm gofal cymdeithasol i oedolion ati i rannu manylion y claf â chartrefi ac aros am ateb.
“Ond roedd dod o hyd i gartref allai ddiwallu ei anghenion yn dalcen caled.
“Arweiniodd hyn at oedi cyn ei ryddhau o’r ysbyty, a risg uwch y byddai’n datgyflyru, yn dal haint yn yr ysbyty ac yn cwympo.
“Er mwyn atal hyn, gweithiodd timau iechyd a gofal cymdeithasol gyda’i gilydd i rannu manylion am y claf, a sicrhawyd lle mewn cartref gofal.
“O ganlyniad i’r cydweithio llwyddiannus hwn, cytunwyd y bydd yr holl fanylion sy’n rhoi braslun o gleifion yn cael eu cwblhau gan dimau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol.”
‘Unman fel adre i wella’
Mae’r cynllun deg pwynt yn cynnwys camau i gael gwared ar y rhwystrau sy’n atal pobol rhag cael eu rhyddhau o’r ysbyty’n brydlon.
Ymysg y rheiny mae sicrhau bod cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion yn dechrau pan maen nhw’n cyrraedd yr ysbyty, gweithio saith diwrnod yr wythnos fel bod cleifion yn cael eu rhyddhau ar benwythnos, a chynnal mwy o asesiadau yn y gymuned.
“Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal dros y gaeaf fel eu bod yn gallu parhau i ofalu am y bobol fwyaf sâl a mwyaf agored i niwed,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.
“Does unman yn debyg i gartref ar gyfer gwella o salwch neu anaf pan fydd pobol yn barod i adael yr ysbyty.
“Yn yr un modd, mae ystod eang o wasanaethau cymorth ar gael yn ein cymunedau sy’n gallu helpu i atal pobol rhag gorfod mynd i’r ysbyty yn y lle cyntaf, a helpu pobol i aros yn iach gartref.
“Bydd Her 50 Diwrnod y Gaeaf ar gyfer Gofal Integredig a’r cynllun gweithredu deg pwynt yn cryfhau ein system iechyd a gofal cymdeithasol, fel ein bod yn gallu helpu mwy o bobol i aros yn iach gartref a chael mwy o bobol adref o’r ysbyty pan fyddan nhw’n barod i adael.”
‘Targedau mympwyol’
Wrth ymateb, dywed Sam Rowlands, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, mai “uchelgais a thargedau mympwyol” yn unig yw’r her.
“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn pasio pob ceiniog fydden ni’n ei derbyn ar gyfer iechyd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn ei integreiddio’n fwy addas â gofal cymdeithasol, cyllido cynghorau’n iawn gyda fformiwla gyllido newydd er mwyn cyflwyno gwasanaethau a gweithredu ar gynllun gweithlu sylweddol i recriwtio mwy o feddygon a nyrsys o gymharu â chynllun Llafur i wneud mwy o swyddi i wleidyddion,” meddai.