Mae Reform UK yn “ddewis credadwy” o gymharu â UKIP, yn ôl eu harweinydd Nigel Farage, sydd wedi bod yn siarad â golwg360 yn eu cynhadledd yng Nghasnewydd.

Does dim amheuaeth fod Reform yn gyrru ton o fomentwm a chefnogaeth yn ystod eu cynhadledd Gymreig ddydd Gwener (Tachwedd 8).

Roedd Aelodau Seneddol San Steffan yn bresennol, gan gynnwys Nigel Farage a Lee Anderson.

Bu Nigel Farage yn arweinydd UKIP sawl gwaith rhwng 2006 a 2018.

Tua diwedd y cyfnod hwn, roedd UKIP yn weledol yn y Senedd efo saith aelod, yn gyntaf dan arweinyddiaeth Nathan Gill, ac yna Neil Hamiltion.

“Mi oedd Nathan Gill, ac mae o dal i fod yn berson mae gen i lot amser a pharch tuag ato,” meddai Nigel Farage wrth golwg360.

“Ond y person arall (Neil Hamiltion), well i ni beidio mynd yno!”

O fewn tri mis ar ôl i UKIP fynd i’r Senedd yn 2016, roedd Nathan Gill wedi ymddiswyddo fel aelod o’r blaid ar ôl iddo gael ei guro i fod yn arweinydd gan Neil Hamilton.

Cafodd y penderfyniad i symud Nathan Gill o fod yn arweinydd y blaid yng Nghymru ei ddisgrifio gan Nigel Farage fel “gweithred gwbl anfoesol”.

Wrth ymateb, dywedodd Neil Hamilton fod “barn Nigel Farage yn amherthnasol” gan ei fod, ar y pryd, yn “Aelod o’r Senedd Ewropeaidd yn cynrychioli De Ddwyrain Lloegr”.

Mae’r math yma o wrthdaro mewnol yn cael ei ddefnyddio gan bleidiau eraill heddiw i ddangos nad yw pleidiau fel Reform ac UKIP yn gallu gweithredu yn effeithiol o fewn y Senedd.

‘Rydym yn blaid broffesiynol’

Yn ôl Nigel Farage, mae Reform bellach yn blaid “broffesiynol”, sydd â “chyfle cryf i fod yn brif wrthblaid ar ôl etholiadau 2026.”

Yn wir, mae arolwg barn diweddar yn dangos mai Reform bellach yw’r drydedd blaid fwyaf poblogaidd yng Nghymru, gydag 20% yn eu cefnogi nhw ar gyfer etholaethau, ac 19% yn rhanbarthol.

Mae hyn yn cael ei ategu gan berfformiad y blaid yn yr etholiad cyffredinol, lle daeth Reform yn ail mewn 13 o’r 32 sedd yng Nghymru.

“Roeddwn i mor falch o’r hyn gafodd ei gyflawni gan UKIP yn sgil y refferendwm ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Nigel Farage.

“Ond roedd UKIP yn cael ei hystyried yn blaid yn yr ysbryd Dunkerque.

“Mae Reform yn gwbl wahanol ac yn apelio at fwy o bobol, ac rydym mewn lle cryf iawn yn mynd i mewn i etholiad 2026.”

Llafur “wedi gwneud llanast llwyr” o Gymru

Hefyd yn y gynhadledd roedd Lee Anderson, yr Aelod Seneddol dros Ashfield.

Fis Ionawr eleni, ymddiswyddodd Lee Anderson o’r Blaid Geidwadol er mwyn pleidleisio dros ddiwygiad i’r mesur ar gynllun i yrru mewnfudwyr i Rwanda.

Dywed ei fod e wedi bod eisiau i’r ddeddf fod mor gryf â phosib, a bod rhaid gadael i’r Llys Ewropeaidd ar Hawliau Dynol sicrhau bod y polisi yn gweithio.

Bellach, mae’r Blaid Lafur wedi cael gwared â’r polisi.

“Roedd gen i bwynt mawr i’w brofi yn yr etholiad ar ôl symud o’r Blaid Geidwadol,” meddai Lee Anderson wrth golwg360.

“Roedd en i’n barod i farw ar ochr y lôn dros yr hyn dw i’n credu ynddo.”

Eto, wrth edrych ar record UKIP yng Nghymru, dywed Lee Anderson fod Reform “yn [blaid] gwbl wahanol”.

“Mae gennym ni bum Aelod Seneddol, 4.1m o bleidleiswyr ar draws y Deyrnas Unedig, ac mi fydden ni wedi cael mwy oni bai am y llinell “Pleidleisiwch dros Reform a chael Llafur”; roedden ni bob amser am gael Llafur.

“Os ydych chi’n edrych ar y Llywodraethau Lafur yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd, maen nhw wedi gwneud llanast llwyr o’r wlad.”

Ychwanega Lee Anderson fod ardaloedd fel Merthyr Tydfil, lle lansiodd Nigel Farage “y Cytundeb efo’r Bobol” (neu faniffesto’r blaid) ar gyfer yr etholiad cyffredinol eleni, “yn debyg iawn i lefydd fel y wal goch” yng ngogledd-orllewin Lloegr.

“Maen nhw [Llywodraeth Cymru] wedi addo un peth ac wedi rhoi rhywbeth arall – ac mae pobol jest wedi cael digon.

“Mae pobl sydd yn gweithio’n galed wedi cael digon o hyn, ac maen nhw’n mynd i’n helpu ni i gael gwared ar y Blaid Lafur yma yng Nghymru.”

Cefnogaeth o’r chwith

Yn y gynhadledd, bu golwg360 yn siarad â nifer o gyn-aelodau’r Blaid Lafur sydd wedi troi tuag at Nigel Farage a Reform.

Yn ôl Lee Anderson, mae nifer o bobol wedi dod o’r asgell chwith draddodiadol yn dilyn dirywiad diwydiannau fel dur ym Mhort Talbot.

“Mae’r hyn maen nhw wedi’i alluogi gyda chau’r ffwrnais ddur ym Mhort Talbot yn warthus,” meddai.

“Mae’r Llywodraeth yn rhoi £500m i Tata i ddatblygu technoleg wyrdd, ond ar yr un pryd mae’r cwmni yn agor ffatrïoedd traddodiadol yn India.”

Dywed fod Aelodau Seneddol fel Ed Miliband, sydd yn Weinidog dros Net Sero, “yn wallgof”, ac y bydd Reform yn cefnu ar y fath bolisïau.