Mae corff llywodraethu pêl-droed FIFA wedi derbyn llythyr gan ymgyrchwyr sy’n galw am wahardd Iran rhag chwarae yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Mae’r llythyr, ar ran chwaraewyr a chyn-chwaraewyr blaenllaw o sawl camp yn Iran, yn annog yr awdurdodau i weithredu.

“Dydy pêl-droed, a ddylai fod yn lle diogel i bawb, ddim yn lle diogel i fenywod na dynion hyd yn oed,” meddai’r llythyr, gan gyfeirio at y ffaith nad yw Iran, sy’n wlad Islamaidd, yn rhoi’r hawl i fenywod chwarae’r gêm yn eu gwlad eu hunain.

“Mae menywod wedi’u hatal yn barhaus rhag cael mynediad i stadiymau ledled y wlad a’u heithrio’n systemataidd rhag ecosystem bêl-droed Iran, sy’n wrthgyferbyniad llwyr â gwerthoedd a statudau FIFA.”

Mae’r llythyr yn cyhuddo Iran o dorri rheolau FIFA.

Bydd Cymru’n herio Iran yng Nghwpan y Byd ar Dachwedd 25, ac mae Lloegr a’r Unol Daleithiau yn eu grŵp.

Cefndir

Fis Medi eleni, bu farw Mahsa Amini, dynes 22 oed, ar ôl iddi gael ei dwyn i’r ddalfa gan yr heddlu moesau am iddi beidio gwisgo hijab yn gywir.

Mae’r awdurdodau bellach yn mynd ati i dawelu unrhyw brotestiadau yn y modd mwyaf ffyrnig wrth i bobol brotestio yn erbyn y llywodraeth.

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr mae dyfarnwr pêl-droed, pencampwr jiwdo a chwaraewraig futsal.

‘Y rhan fwyaf o strydoedd Tehran yn llwyfan ar gyfer y gwrthdaro rhwng yr heddlu a’r bobol’

Cadi Dafydd

“Allan o’r tristwch yma, dw i wir yn gobeithio y bydd yna newid a dw i’n meddwl mai dyna yw gobaith pobol Iran hefyd,” medd cantores sydd â theulu yno