Mae yna deimlad cyffredinol o gefnogaeth tuag at brotestiadau yn Iran, meddai cantores Gymraeg sydd â chysylltiadau teuluol yno.

Dros y dyddiau diwethaf, mae protestiadau wedi cael eu cynnal mewn dwsinau o ddinasoedd dros y wlad ar ôl i fenyw ifanc farw yn y ddalfa.

Cafodd Mahsa Amini, oedd yn 22 oed, ei harestio am “wisg amhriodol” ar Fedi 13 yn y brifddinas, Tehran, gan yr heddlu moeseg, sy’n gweithredu rheolau gwisg y Wladwriaeth Islamaidd.

Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979, mae hi’n orfodol i fenywod yn Iran wisgo hijab, sef sgarff pen ac yn ôl yr adroddiadau, doedd hijab Mahsa Amini heb ei wisgo’n gywir.

Bu farw dridiau wedyn mewn ysbyty, ac mae hynny wedi arwain at brotestiadau eang ar strydoedd Iran, gan gynnwys menywod yn llosgi eu hijab.

Yn ôl ystadegau swyddogol, mae 41 o bobol, gan gynnwys aelodau o’r heddlu, wedi marw yn ystod y protestiadau.

Ond mae grwpiau hawliau dynol Iranaidd yn dweud bod y ffigwr hwnnw’n uwch.

Gobeithio am newid yn sgil y tristwch

Mae gan Elin Parisa Fouladi o Gaerdydd fodrybedd, ewyrth, cyfnitherod a chefnder yn byw yn Tehran, ac yn ôl ei chyfnither mae’r sefyllfa yn “ofnadwy”.

“Dw i wedi bod yn siarad efo fy nghyfnitherod, ac roedd hi’n gofyn i ni weddïo drostyn nhw a’r bobol, ac yn dweud eu bod nhw i gyd yn saff ar y funud,” meddai’r gantores wrth golwg360.

“Dw i methu cael gafael ar un anti – gall hyn fod oherwydd bod y we wedi cael ei ddiffodd mewn rhai mannau, fel na all pobol gyfathrebu gyda gweddill y byd.

“Ond meddai fy nghyfnither: Mae’r sefyllfa yn rhyfedd yn Iran. Mae’r bobol yn rhan fwyaf o’r dinasoedd yn sefyll yn erbyn y llywodraeth. Does neb yn hoffi rheolau a pholisïau’r llywodraeth. Mae’r rhan fwyaf o’r sgwariau mawr a’r strydoedd yn Tehran yn llwyfan ar gyfer y gwrthdaro rhwng yr heddlu a’r bobol. Gweddïwch drosom a gweddïwch dros y bobol’.

“O be dw i’n ddeall, mae pawb yn falch bod rhywbeth yn cael ei wneud, a phobol yn sefyll fyny yn erbyn y llywodraeth achos mae pawb wedi cael digon o’r oppression.

“Yn amlwg, mae’n drasig bod menywod yn cael eu lladd achos eu bod nhw’n trio ymladd am hawliau dynol sylfaenol. Mae hynny’n ofnadwy. Ond mae hyn wedi sbarcio gymaint – allan o’r tristwch yma, dw i wir yn gobeithio y bydd yna newid a dw i’n meddwl mai dyna yw gobaith pobol Iran hefyd.

“Fedra i ddim coelio pa mor ddewr ydy pobol, yn enwedig y menywod yma. Maen nhw’n torri rheolau ofnadwy o ddifrifol, fedra nhw fynd i’r carchar, maen nhw’n cael eu lladd.

“Maen nhw’n sefyll fyny dros bethau rydyn ni’n eu cymryd yn hollol ganiataol yn fan hyn.”

Hawl i ddewis

Cwffio dros yr hawl i ddewis ac yn erbyn system orthrymus mae’r protestwyr, yn ôl Elin Parisa Fouladi.

“Cyn 1979, pan ddigwyddodd y chwyldro, doedd yna ddim rheolau fel hyn yn Iran,” meddai.

“Dychmygwch fynd drwy eich bywydau ddim efo’r rheolau yma, a mwyaf sydyn ti ddim yn cael gadael y tŷ heb hijab, ti ddim yn cael canu, perfformio na gwneud dim byd fel dynes yn gyhoeddus.

“Dydy o ddim yn iawn beth bynnag, ond mae’r ffaith eu bod nhw wedi arfer cael gwlad heb y rheolau yma’n gwneud o’n fwy o beth.

“Dydy o ddim byd i wneud efo crefydd o gwbl, mae o i gyd i wneud efo gorthrwm.

“Er nad ydw i’n adnabod y menywod yma, dw i’n teimlo mor falch ohonyn nhw. Mae’n rhyfedd, achos mae gen ti’r cysylltiad gwaed i rywle.

“Pobol Iranian ydy’r bobol fwyaf passionate dw i wedi’u cwrdd, ac efallai mai dyna ydy o – eu bod nhw mor supressed ond eu bod nhw wedi arfer cael y rhyddid, a hwnnw wedi cael ei dynnu oddi wrthyn nhw.

“Mae yna Fwslemiaid yn y wlad, os na dyna ydy dy grefydd di a ti eisiau gwisgo hijab – dy ddewis di ddylai hynny fod.

“Ond y pwynt ydy, ddylai bod pawb efo dewis i ddilyn pa grefydd maen nhw eisiau, a gwneud be maen nhw eisiau.

“Roedd fy nhaid i’n Fwslim strict iawn, ond dydy hynna ddim yn golygu bod o’n cytuno [efo’r orfodaeth].

“Mae hyn yn regime i wneud efo suppressio pobol, menywod yn benodol – dim byd o gwbl i wneud gyda chrefydd.

“Pŵer a grym dros be’ mae menywod yn ei wneud, ac mae’n ffiaidd ein bod ni’n gadael i hyn ddigwydd.”

Galw ar lywodraeth i weithredu

Mae Elin Parisa Fouladi yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu, ac yn gofyn i bobol yrru llythyrau at eu haelodau seneddol yn gofyn iddyn nhw godi’r mater gyda gweinidogion San Steffan.

“Be sy’n gwylltio fi’n fwy na dim, a dw i’n gwybod ei bod hi’n anodd i bobol gyffredin roi barn ar y sefyllfa, efallai eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw ddim yn deall, ond dyna’r broblem – mae pawb mor passive.

“Mae hi’n hawdd i bobol gogio bod o ddim yn effeithio nhw, felly mae’n iawn.

“Ond dydy o ddim yn iawn, yn enwedig i’r llywodraeth. Achos bod ganddyn nhw’r pŵer, mae angen iddyn nhw wneud rhywbeth. Eto, dw i jyst yn teimlo bod nhw’n passive.

“Mae hi ddigon hawdd dweud dy fod di’n poeni am rywbeth, ond be ti am wneud?

“Achos bod rhywbeth yn digwydd yn y Dwyrain Canol, mae pobol fel petaen nhw’n meddwl ‘Rydyn ni mor disconnected oddi wrth hynny, mae o mor bell i ffwrdd’… ond pobol ydyn nhw, mae pawb yn haeddu’r cyfle i allu mynegi eu hunain a byw bywyd.

“Mae angen i’r llywodraeth wneud mwy, ac os ydy pobol yn anfon y llythyron yma o leiaf rydyn ni’n gwneud rhywbeth.”

Meddai’r llythyr: “Fel fy Aelod Seneddol, dw i’n gofyn i chi godi’r mater pwysig hwn gyda’r Senedd a gofyn i Lywodraeth Prydain, ac yn benodol Mr James Cleverly, yr Ysgrifennydd Tramor, i stopio trafod gyda’r Weriniaeth Islamaidd ynghyd y JCPAO (cytundeb niwclear Iran) ac unrhyw faterion busnes eraill, i alw Llysgennad Iran, fel cynrychiolydd swyddogol y Weriniaeth Islamaidd, i fod yn atebol am eu gweithredoedd, i gondemnio triniaeth dreisgar Iran tuag at eu dinasyddion eu hunain drwy gyrff fel y Cenhedloedd Unedig, a gosod sancsiynau pellach ar swyddogion y Weriniaeth Islamaidd a’u plant a’u teuluoedd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig.”