Mae yna 2,900 o swyddi nyrsio yn wag yng Nghymru, yn ôl yr adroddiad diweddaraf ar lefelau staffio.
Roedd adroddiad 2021 yn nodi bod 1,719 o swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig yng Nghymru, ac yn ôl Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer 2022 yn rhai sy’n “peri pryder gwirioneddol”.
Mae’r ystadegau yn adroddiad Nursing in Numbers 2022 hefyd yn dangos bod nyrsys yn cael eu gwthio i adael y Gwasanaeth Iechyd, meddai Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Helen Whyley.
“Mae gofal iechyd Nghymru mewn stad argyfyngus, ac yn anffodus cleifion sy’n talu’r gost,” meddai Helen Whyley.
“Mae nyrsys wedi ymlâdd a dan bwysau i ddarparu’r gofal safon uchel mae’r cleifion yn ei haeddu, ac yn ymwybodol bod nifer y bobol sy’n aros am driniaethau yn cynyddu.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb nawr i ddiogelu cleifion a chefnogi’r gweithlu nyrsio.
“Rhaid iddo fynd i’r afael â lefelau staff nyrsys er mwyn sicrhau bod y sefyllfaoedd lle mae cleifion yn derbyn gofal yn ddiogel.”
Ymestyn lefelau staffio diogel
Bydd deiseb yn galw am sicrhau bod lefelau diogel o nyrsys mewn wardiau iechyd meddwl a nyrsio cymunedol yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw (Medi 28).
Cafodd y ddeddfwriaeth wreiddiol i sicrhau lefelau staffio, Deddf Lefelau Staff Nyrsio 2016, ei chyflwyno gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, ac maen nhw a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dangos eu cefnogaeth i’r ddeiseb.
“Mae cynnal lefelau staff nyrsio yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch cleifion,” meddai Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eisiau gweld y Ddeddf yn cael ei hymestyn i gynnwys cleifion mewnol ar wardiau iechyd meddwl, wardiau plant, a wardiau cymunedol.
“Byddai hyn yn helpu rywfaint i leddfu’r pwysau ar nyrsys a sicrhau Gwasanaeth Iechyd Gwladol mwy diogel ar gyfer cleifion a staff fel ei gilydd.
“Fodd bynnag, rydyn ni eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach ar dâl nyrsys fel ein bod ni’n gallu recriwtio a chadw nyrsys yn well yma yng Nghymru, yn enwedig yn sgil yr argyfwng costau byw.”
‘Arbennig o bwysig’ i adrannau iechyd meddwl
Dywedodd Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, bod ymestyn y ddeddfwriaeth i gynnwys wardiau iechyd meddwl yn “arbennig o bwysig o ystyried bod yr adrannau hynny wedi colli gymaint o welyau dan y Llywodraeth Lafur”.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn falch iawn o gefnogi’r ymgyrch hon i ymestyn lefelau staffio diogel i gynnwys mwy o nyrsys – yn enwedig o ystyried pa mor brin o staff ydy ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Yng Nghymru dan reolaeth Llafur, mae yna brinder staff ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol – i gyd yn cyfrannu tuag at gynyddu’r perygl i ddiogelwch cleifion a gwaethygu morâl staff.
“Dw i’n edrych ymlaen at drafod ymhellach â’r Coleg Nyrsio Brenhinol a’r deisebwyr, a dw i’n gobeithio y bydd Mark Drakeford yn gwneud yr un peth, gan ganolbwyntio ar yr argyfwng costau byw yn hytrach na gosod treth dwristiaeth a chael 36 gwleidydd ychwanegol, nas dymunir, ym Mae Caerdydd.”