Roedd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, wrth ei bodd wrth groesawu’r Tywysog William a’r Dywysoges Kate i Ynys Môn, meddai.

Dyma oedd ymweliad cyntaf y ddau â Chymru ers dod yn Dywysog a Thywysoges Cymru ddiwrnod wedi marwolaeth y Frenhines – rhywbeth sydd wedi cythruddo rhai pobol yng Nghymru.

Treuliodd y pâr gyfnod yn byw ar y Fam Ynys ar ôl iddyn nhw briodi, wrth i William weithio fel peilot hofrennydd tîm achub yno.

Cyrhaeddon nhw’r ynys am 12.15yp ddoe (dydd Mawrth, Medi 27) i ymweld â Gorsaf Bad Achub Caergybi.

Yno, cawson nhw gyfarfod ag aelodau’r criw, gwirfoddolwyr a rhai o’r bobol sydd wedi cael cymorth gan eu huned leol.

Roedd Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn, yno i’w croesawu hefyd.

Treuliodd y ddau tuag awr a 15 munud yng Nghaergybi, cyn cychwyn am Abertawe.

Roedd y dorf yn cynnwys cynrychiolwyr busnesau a sefydliadau bach, megis Gwylwyr y Glannau a Chadetiaid y Môr.

Pôl piniwn

Daw sylwadau Virginia Crosbie ddiwrnod ar ôl i bôl piniwn YouGov ddangos bod 66% o bobol Cymru o blaid cadw’r rôl, ac mai dim ond 19% eisiau gweld Arwisgiad tebyg i’r hyn gafodd ei dad, y Brenin Charles III, fel Tywysog Cymru yn 1969.

Mae 74% yn credu y bydd William yn llwyddo yn y rôl, gyda dim ond 13% o’r farn na fyddai’n llwyddiant, gyda 13% ddim yn gwybod neu heb farn.

Cafodd 1,014 o bobol 16 oed a hŷn eu holi fel rhan o’r pôl.

“Wrth fy modd”

“Rwyf wrth fy modd fod Tywysog a Thywysoges Cymru wedi dod i Ynys Môn ar eu hymweliad swyddogol cyntaf â’r wlad gan ddefnyddio eu teitlau newydd,” meddai Virginia Crosbie.

“Rwy’n gwybod fod gan y Tywysog a’r Dywysoges hoffter mawr o Ynys Môn o’u cyfnod yn byw yma ar ôl priodi.

“Fe gawson nhw eu croesawu gan bobol Ynys Môn oedd wedi eu synnu gan deulu mor arferol oedden nhw, yn hapus wrth siopa mewn archfarchnadoedd, a pha mor ddiolchgar oedd pawb o amgylch yr arfordir i gael y Tywysog yn gweithio mor galed i achub bywydau fel peilot chwilio ac achub.

“Llwyddais i gael ychydig eiriau a chynnig fy nghydymdeimlad i’r ddau ar ran Ynys Môn am golli’r Frenhines Elizabeth.”

“Ni ddylai rôl anrhydeddus Tywysog Cymru fod yn ddadleuol”

Daw sylwadau Tom Giffard ar y diwrnod pan fo William a Kate yng Nghymru