Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llafur a Phlaid Cymru o “roi ideoleg uwchlaw llewyrch Cymru” ar fater Tywysog Cymru ac unrhyw Arwisgiad posib.
Tra bod pôl piniwn YouGove yn dangos bod 66% o bobol Cymru o blaid cadw’r rôl, dim ond 19% sydd eisiau gweld Arwisgiad tebyg i’r hyn gafodd ei dad, y Brenin Charles III, fel Tywysog Cymru yn 1969.
Mae 74% yn credu y bydd William, Tywysog newydd Cymru, yn llwyddo yn y rôl, gyda dim ond 13% o’r farn na fyddai’n llwyddiant, gyda 13% ddim yn gwybod neu heb farn.
Cafodd 1,014 o bobol 16 oed a hŷn eu holi fel rhan o’r pôl.
Yn ôl Mark Drakeford, does “dim brys” i gynnal Arwisgiad arall, tra bod lle i gredu bod William a’i wraig Catherine, Tywysoges newydd Cymru, yn awyddus i “ddathlu hanes a thraddodiadau balch Cymru” a “dyfodol sy’n llawn addewid”.
Yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, dylid gwneud unrhyw benderfyniadau am arwisgiad neu ddathliad yma yng Nghymru.
Daw sylwadau Tom Giffard ar y diwrnod pan fo William a Kate wedi teithio i Gymru am y tro cyntaf yn eu rolau newydd, gan ymweld ag Ynys Mon ac Abertawe.
Mae dros 35,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu Arwisgiad.
‘Ideoleg uwchlaw llewyrch’
Yn ôl Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, ni ddylai rôl Tywysog Cymru fod yn un dadleuol.
“Mae safbwynt tri chwarter y cyhoedd am Dywysog Cymru’n ffafriol ac maen nhw’n credu y bydd yn gwneud gwaith da,” meddai.
“Mae pliwraliaeth glir yng Nghymru sydd o blaid arwisgiad o ryw fath.
“Ni ddylai rôl anrhydeddus Tywysog Cymru fod yn ddadleuol.
“Mae’r rôl ei hun yn ased economaidd, yn enwedig i’r diwydiant twristiaeth, yng Nghymru.
“Fel y mae twristiaeth y Deyrnas Unedig yn elwa ar y Teulu Brenhinol o rai miliynau [o bunnoedd] bob blwyddyn, bydd arwisgiad yn dod â phobol o bedwar ban i fwynhau’r digwyddiad, gan ychwanegu at economi Cymru.
“Mae’r rhai negyddol yn Llafur a Phlaid Cymru unwaith eto’n rhoi eu hideoleg uwchlaw llewyrch Cymru.”