Mae William, Tywysog Cymru, yn dweud y byddai unrhyw seremoni i’w arwisgo yn wahanol iawn i’r rhwysg gafodd ei dad pan gafodd hwnnw ei Arwisgo’n Dywysog Cymru yng nghastell Caernarfon yn 1969. Ond wrth i Charles ddod yn Frenin a’i fab yn etifeddu ei deitl yma yng Nghymru, mae Ffred Ffransis yn gofyn a ydyn ni’r Cymry wir wedi dysgu gwersi o 1969?


Dwi wedi profi teimladau y tridiau diwetha’ ’ma nad oeddwn i wedi eu profi ers haf 1969.

Y flwyddyn honno y cynhaliwyd Arwisgo Charles yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon ar ddechrau Gorffennaf. Wedi trafodaeth, penderfynodd Cymdeithas yr Iaith wrthwynebu’r Arwisgo. Dadleuodd rhai nad oedd hyn ddim byd i’w wneud â’r frwydr dros yr iaith, ond credodd y mwyafrif mai’r un taeogrwydd berswadiodd y Cymry Cymraeg i beidio a throsglwyddo’r iaith i’w plant – er i ni ddod i ddeall yn well wedyn fod rhesymau cymdeithasol-economaidd yn gyfrifol am hynny hefyd. Cynhaliwyd rali fawr wrth-Arwisgo yn y Gwanwyn yng Nghaernarfon, a dangosodd Cyfrifon Barn fod lleiafrif sylweddol o 25% o’r boblogaeth yn ein cefnogi.

Ond wedyn aeth peiriant propaganda’r Wladwriaeth Brydeinig i fyny gêr neu ddau. Gwnaethon nhw gyfethol y sefydliad Cymraeg i’w cefnogi. Cytunodd Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth dderbyn Charles yn fyfyriwr am dymor fel y byddai’n dysgu’r iaith a phopeth am hanes a diwylliant Cymru o fewn chwe wythnos rhwng y Pasg a Sulgwyn – ac eithrio’r dyddiau pryd y byddai’n dychwelyd i Gaergrawnt i chwarae polo. Ac ar ddiwedd y cyfnod, rhoddodd Urdd Gobaith Cymru lwyfan i Charles. Rhwygwyd yr Urdd ond enillwyd calonnau mwyafrif y Cymry Cymraeg. Penderfynodd nifer o’r prif artistiaid Cymraeg berfformio yn yr Arwisgo. Cafodd Dafydd Iwan ei wawdio mewn cyngerdd yn Eisteddfod yr Urdd. Gwrthododd Gwynfor wahoddiad i fynd i’r Arwisgo, ond collodd sedd y flwyddyn wedyn. Win, win, win i’r Sefydliad Prydeinig.

Arwisgo Tywysog Siarl, protest Cofia 1282 (Llun Geoff Charles sydd ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol)

Nôl yng nghyfarfodydd y Gymdeithas, bu pobol yn taranu ein bod yn “syrthio i mewn i trap” trwy barhau i brotestio. Tystiodd eraill eu bod yn “teimlo eu bod mewn lleiafrif bach, a phawb yn gas iddynt”. Ond y ddadl a’n hargyhoeddodd oedd ei fod yn bwysig i’r mudiad cenedlaethol fod Cymry yn y dyfodol yn gallu edrych nôl ar 1969 a gweld fod rhywrai wedi parhau i wrthwynebu a chynnal fflam rhyddid ynghynn. Yn wahanol i bleidiau gwleidyddol, doedd dim raid i ni geisio poblogrwydd. Trefnon ni brotest arall yng Nghilmeri dridiau cyn yr Arwisgo ac, o fewn blwyddyn, yr oedd ein gweithredoedd wedi cynyddu mewn difrifoldeb yn fawr.

Dysgu o hanes

Eto eleni y mae rhai o’r un dadleuon â 1969. A fedrwn ni ddysgu o hanes ?

Eto eleni, daeth cysgod totalitariaeth ac arwydd clir fod yn rhaid i bob arweinydd gwleidyddol ddatgan eu teyrngarwch i’r frenhiniaeth, a bod sefydliadau’n meddwl eu bod yn cyflawni dyletswydd hyd yn oed wrth amddifadu plant o gyfle chwaraeon. Eto daeth y dadleuon am “fod yn wleidyddol gall” a pheidio â gwneud safiadau amhoblogaidd. Fyddai’r Sefydliad Brydeinig fyth yn gwneud y camgymeriad o alw am un tîm pêl-droed i Brydain ’chydig cyn i dîm cenedlaethol Cymru ymddangos ar lwyfan rhyngwladol yng Nghwpan y Byd; ond yn hytrach anfon neges pob lwc tra’n croesi eu bysedd a gobeithio i ni gael ein chwalu. ‘Run fath â ddylai cenedlaetholwyr o Gymry (a sosialwyr a phawb sy’n credu mewn democratiaeth) “ddewis eu brwydrau” a pheidio â chodi gair o brotest?

Erys yr un dadleuon ag yn 1969. Gwir fod strwythurau cenedlaethol Cymru wedi cryfhau ers hynny, ond dim ond trwy ganiatâd y sefydliad Prydeinig – fel y dengys eu gwrthodiad o refferendwm yn yr Alban. Ond mae dau ddimensiwn ychwanegol.

Yn gyntaf, mae gwleidyddiaeth i fod i wasanaethu pobol. Unwaith y daw yn ddiystyriol o anghenion a bywydau pobol, mae gwleidyddiaeth yn dirywio i fod yn gyfrwng dyrchafiad personol neu achos yn unig. Yn bersonol, fy nhuedd fyddai i beidio â chynnal gwrthdystiad yn erbyn rhywun – hyd yn oed os ceisio gwahaniaethu rhwng y personol a’r rôl gyfansoddiadol – ychydig o ddyddiau cyn angladd ei fam. Ond mater hollol wahanol yw gohirio / canslo digwyddiadau fel arwydd o barch – ac mor anhygoel yw’r cysyniad fod gwneud dim yn arwydd o barch at unrhyw un. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi penderfynu y bydd Rali “Nid yw Cymru ar Werth” yn mynd yn ei blaen yn Llangefni ddydd Sadwrn nesaf, yr 17eg – oherwydd nad yw anobaith ac anallu ein pobol i gael cartrefi yn eu cymunedau eu hunain, na’r frwydr dros ddyfodol y cymunedau eu hunain, yn dod i stop am ddeng niwrnod. Mewn unrhyw trefniach, byddid yn gweld ymgyrchu dros gyfiawnder yn arwydd o barch, nid o amharch. Brwydr dros bobol mewn angen yw hon, ac yn erbyn system anghyfiawn, nid yn erbyn unigolion.

Yn ail, fel unigolyn, fyddwn i ddim chwaith yn croesawu unrhyw frenin newydd, ac yn sicr ni fyddwn yn aros yn dawel mewn seremoni a geisiodd fendith Duw ar fwriad unigolyn, yn enw sefydliad, i deyrnasu a rheoli pobol. Dangosodd Duw ei natur trwy ddod i’r byd hwn i wasanaethu, nid i reoli fel y cafodd ei demtio gan y Diafol. Daeth i gario’n beichiau ni, ac nid i dderbyn braint ar ein traul ni. Cam-dystiolaeth a cheisio cyfethol Duw i wasanaethu’n buddiannau ni yw hyrwyddo brenhiniaeth trwy ein geiriau, neu drwy ein presenoldeb mewn digwyddiad felly.

Daw’r gwir wrthdrawiad gwerthoedd os bydd y sefydliad Prydeinig yn penderfynu mai cynllun da fyddai cynnal unwaith eto sioe o Arwisgiad – siŵr o fod ychydig fisoedd cyn etholiad. Mewn ymateb i gyhoeddiad o’r fath y dylai fod protest fawr. Nid gwrthdystiad ond PRO-test. Tystio DROS ddyfodol i Gymru a’r Gymraeg, ac yn erbyn, felly, unrhyw drefn sydd am gymryd y cyfrifoldeb oddi arnon ni. Protest dros Sofraniaeth, dros dderbyn cyfrifoldeb. Nid protest dros ildio’n sofraniaeth a’n rhyddid i deyrn o Gymro yn lle teyrn o Sais, ond dros ddatgan yng ngeiriau’r Hen Ŵr o Bencader, ac yn ysbryd y gân “Yma o Hyd” mai ni, bobol Cymru, fydd yn derbyn cyfrifoldeb am ddyfodol ein gwlad ac am osod esiampl i’r byd. Dylem fynnu trosglwyddo’n sofraniaeth a’r rhyddid i’r werin-bobol.

A dyna setlo lleoliad y gwrthdystiad – Pencader, wrth gwrs, neu o leiaf Sir Gâr!