Mae trefnwyr rali Diwrnod Cenedlaethol Catalwnia yn dweud bod 700,000 wedi mynd i’r digwyddiad yn Barcelona dros y penwythnos, ond mae’r heddlu wedi cyhoeddi ffigwr swyddogol o 150,000.

Mae ffigwr yr heddlu 42,000 yn uwch na’r llynedd, a ffigwr Assemblea Nacional Catalana, neu’r ANC, 300,000 yn uwch na’r llynedd.

Daeth y rali i ben ger senedd Catalwnia, lle gwnaeth Dolors Feliu, llywydd yr ANC, fynnu “annibyniaeth neu etholiadau” wrth annerch dwy blaid y cabinet, sydd hefyd o blaid gadael Sbaen.

Yn ystod ei hanerchiad, galwodd hi am greu plaid newydd wrth i’r dorf alw ar y llywodraeth i gamu o’r neilltu.

Doedd yr Arlywydd Pere Aragonès ddim yn y rali ar ôl dweud ei fod yn teimlo bod y rali yn erbyn pleidiau sydd o blaid annibyniaeth, ac nid yn erbyn Sbaen, gan awgrymu hollt ymhlith ymgyrchwyr tros annibyniaeth rhwng y rhai sy’n ffafrio trafodaethau â Llywodraeth Sbaen ym Madrid a’r rheiny sy’n galw am weithredu’n uniongyrchol.

Roedd maniffesto’r rali’n beirniadu’r pleidiau gwleidyddol am y ffordd maen nhw’n arwain yr ymgyrch ar hyn o bryd, ac felly dyma’r tro cyntaf i Arlywydd Catalwnia wrthod mynd i’r digwyddiad ers 2015.

Yn 2014 y cafwyd y dorf fwyaf erioed yn y rali flynyddol, gydag 1.8m yn bresennol, yn ôl yr heddlu.

Ond mae’r ffigurau wedi bod yn gostwng yn raddol ers hynny, ac mae lle i gredu bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf hefyd.