Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd, wedi talu teyrnged i Elizabeth II, Brenhines Lloegr, wrth iddi agor sesiwn eithriadol yng Nghaerdydd.

Daw hyn yn dilyn marwolaeth y Frenhines yn 96 oed ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

“Rydym yn ymgynnull yma heddiw i dalu teyrnged i’r Frenhines Elizabeth II – pennaeth y wladwriaeth ers dros 70 mlynedd,” meddai wrth agor y sesiwn.

“Ymgymerodd Elizabeth II â’i swydd 47 mlynedd cyn i’r Senedd hon gael ei chreu.

“Heddiw, ni yw Senedd gyntaf Cymru i dalu teyrnged yn dilyn marwolaeth pennaeth y wladwriaeth.

“Fel ym mhob Senedd, mae ein barn yn cynrychioli barn amrywiol y bobol rydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Mae ein barn yn amrywio ar lawer iawn o agweddau ar fywyd Cymru.

“Bydd ein barn yn wahanol o ran sefydliad y frenhiniaeth ei hun, ond ni fydd ein barn yn wahanol iawn ar y ffordd y bu Elizabeth yn gweithredu ei rôl yn ystod ei hoes o wasanaeth cyhoeddus, sut roedd ei doethineb a’i hymroddiad i’r swydd yn cael eu gwerthfawrogi a sut rydym yn galaru yn nhristwch ei cholled ac yn cadw ei theulu yn ein meddyliau.

“Roedd Elizabeth II yn chwilio am yr hyn oedd yn uno pobol yn hytrach na’r hyn oedd yn creu rhaniad.

“Gallwn ninnau hefyd geisio’r undod hwnnw heddiw yn ein cydymdeimlad.”

Cynnig o gydymdeimlad

Bydd y Cynnig o Gydymdeimlad mae Aelodau o’r Senedd wedi cytuno arno heddiw (dydd Sul, Medi 11) yn cael ei ddarllen i’r Brenin Charles a’i wraig, y Frenhines Gydweddog Camilla, pan fyddan nhw’n ymweld â’r Senedd ddydd Gwener (Medi 16).

Bydd y ddau yn cyfarfod ag Aelodau o’r Senedd ac Aelodau o’r Senedd Ieuenctid yn ystod eu hymweliad.

Dywed y cynnig “fod y Senedd hon yn mynegi ei thristwch dwys yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines ac yn estyn ei chydymdeimlad diffuant i Ei Fawrhydi Y Brenin ac aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol”.

“Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth a dyletswydd cyhoeddus, gan gynnwys y gefnogaeth a roddodd i nifer o elusennau a sefydliadau yng Nghymru, a’i chysylltiad ar hyd ei hoes â Chymru a’i phobol.”

Heddiw (dydd Sul, Medi 11), cafodd y Proclamasiwn ei ddarllen yng Nghaerdydd ar ôl i Charles ddod yn frenin.