Bydd cynlluniau i hybu enwau Cymraeg ar gyfer strydoedd newydd yn Sir Gaerfyrddin yn destun dadl gan gynghorwyr fel rhan o bolisi ehangach ynghylch sut y dylid enwi a rhifo tai.

Bydd gofyn mewn cyfarfod ddydd Mercher (Medi 14) i’r Cyngor llawn gymeradwyo polisi drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Dywedodd adroddiad y Cyngor y gallai enwau strydoedd a thai wneud cyfraniad arwyddocaol i’r iaith Gymraeg a chwarae rhan bwysig wrth hybu hunaniaeth, treftadaeth a hanes diwylliannol ardal.

“Gan fod gan y Cyngor yr hawl i benderfynu ar enwau strydoedd newydd, mae’n cydnabod pwysigrwydd rhoi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg a’i hybu, ac felly’r polisi hwn mewn perthynas ag enwau eiddo a strydoedd fydd hybu a mabwysiadu enw Cymraeg sy’n gyson â threftadaeth a hanes yr ardal,” meddai’r adroddiad.

Mae’r polisi drafft yn dweud y bydd arweiniad yn cael ei roi i ddatblygwyr wrth fabwysiadu enwau lleoedd ar gyfer cynlluniau newydd.

“Ni fyddwn yn cefnogi newid enw eiddo pe bai’n arwain at newid neu ddileu enw o bwys hanesyddol neu ddiwylliannol, a byddwn yn rhoi cyngor i’r ymgeisydd ac yn eu hannog i ailystyried y newid arfaethedig,” meddai.

Byddai pob stryd bresennol sydd angen arwyddion ychwanegol neu newydd yn cael ychwanegu cyfieithiad Cymraeg, ond fyddai’r cyfieithiad ddim yn rhan o enw swyddogol y stryd oni bai bod gweithdrefn newid enw ffurfiol yn cael ei dilyn.

Ar gyfer enwau strydoedd hanesyddol, fyddai’r fath gyfeiriadau ddim yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg oni bai bod yna fersiwn Gymraeg.

“Lle bo gan enwau presennol arwyddocâd hanesyddol neu ieithyddol penodol, ni chaiff ailenwi ei gefnogi,” meddai’r polisi.

Byddai gan cynghorwyr sir, tref a chymuned rôl wrth awgrymu themâu ar gyfer enwau strydoedd newydd sydd â chyd-destun hanesyddol a lleol perthnasol.

Yn ôl y polisi drafft, ni ddylai awgrymiadau ar gyfer enwau strydoedd neu eiddo gynnwys enw person byw neu fu farw’n ddiweddar, a dylid gofalu rhag defnyddio enwau presennol yn Sir Gaerfyrddin er mwyn osgoi dryswch.

Dywed y polisi drafft hefyd y dylid osgoi enwau strydoedd a thai sy’n gallu cael eu camddehongli’n fwriadol, megis Typple Avenue a Hoare Road, felly hefyd rhai sy’n anaddas o ran eu hedrychiad, megis Tip House a Gaswork Road.

Byddai angen i drigolion sydd eisiau i’r Cyngor ystyried ailenwi eu stryd wneud cais drwy eu cymuned tref neu gymuned yn y lle cyntaf.

Dim ond pe bai’r holl drigolion sy’n byw yno’n rhan o ymgynghoriad ac yn cytuno â’r newid arfaethedig y byddai’r fath gais yn cael ei ystyried.

Dywed adroddiad y Cyngor mai arweiniad yn unig sydd yn y polisi drafft, ac y byddai penderfyniadau arianol ynghylch enwau a rhifo yn cael eu gwneud gan wasanaeth enwi a rhifo strydoedd yr awdurdod.

Cefndir

Fis Hydref y llynedd, fe wnaeth cynghorwyr gefnogi cynnig gan y Cynghorydd John James y dylai’r awdurdod fabwysiadu polisi o roi enwau Cymraeg ar bob eiddo neu stryd newydd.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth perchennog tŷ o’r enw Hakuna Matata yng Ngorslas amddiffyn yr enw wnaeth ymddangos ar fap, yn dilyn beirniadaeth ar-lein.

Mae mapiau hŷn yn dangos mai Banc Cornicyll oedd enw’r tir.

Dywedodd Sara Davies, perchennog y tŷ sydd wedi byw yno ers 25 mlynedd, fod yr enw Banc Cornicyll wedi diflannu cyn iddyn nhw brynu’r tir yn 1997, ond mae yna gofnod yn nogfennau’r Gofrestrfa Dir yn nodi’r gwerthiant.

Dywedodd ei bod hi a’i gŵr wedi prynu darn o’r tir o’r enw Banc Cornicyll, ac nad oedd unrhyw adeiladau ar y tir hwnnw.

Fe wnaethon nhw adeiladu tŷ newydd gan dderbyn cyngor gan Swyddfa’r Post y gallen nhw roi pa bynnag enw fynnon nhw arno gan nad oedd yna gyfeiriad cofrestredig ar gyfer y tir.

Fe wnaethon nhw ddewis Hakuna Matata, sy’n golygu “dim pryderon” yn yr iaith Swahili – ymadrodd sydd wedi dod yn adnabyddus yn sgil y ffilm Disney Lion King (1994).

“Galla’ i ddeall, pe baen ni wedi symud i ffermdy a’i ailenwi, yna byddai’n fater o golli etifeddiaeth,” meddai.

“Yng nghyd-destun yr hen fapiau, dydy’r tŷ newydd ddim hyd yn oed yn yr un ardal â’r hen ffermdy, mae’n lle cwbl wahanol.”

Dywedodd fod yr enw Hakuna Matata yn un sentimental iawn iddo, gan ychwanegu, “Pe bai unrhyw ffordd o ddod â Banc Cornicyll yn ôl fel rhan o’r cyfeiriad rywsut, fel na fyddai’n cael ei golli’n llwyr, yn sicr fyddai dim problem gen i o ran hynny.”

Dywedodd fod teulu ei gŵr yn bobol leol ac i gyd yn Gymry Cymraeg.

“Does dim dwywaith, fydden ni ddim yn symud i hen ffermdy ac yn dileu ei hanes,” meddai.